Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Thesaloniaid 2:10-12

1 Thesaloniaid 2:10-12 BNET

Dych chi’n dystion, ac mae Duw’n dyst hefyd, ein bod ni wedi bod yn ddidwyll, yn deg a di-fai yn y ffordd wnaethon ni eich trin chi ddaeth i gredu. Roedden ni’n trin pob un ohonoch chi fel mae tad yn trin ei blant – yn eich calonogi chi a’ch cysuro chi a’ch annog chi i fyw fel mae Duw am i chi fyw. Mae e wedi’ch galw chi i fyw dan ei deyrnasiad e, ac i rannu ei ysblander.