Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 21

21
Gwinllan Naboth
1Wedyn dyma hyn yn digwydd: Roedd gan ddyn o’r enw Naboth, o Jesreel, winllan reit wrth ymyl palas Ahab, brenin Samaria. 2A dyma Ahab yn gwneud cynnig i Naboth, “Rho dy winllan i mi, i mi gael ei throi hi’n ardd lysiau gan ei bod hi reit wrth ymyl y palas. Gwna i roi gwinllan well i ti’n ei lle hi. Neu, os wyt ti eisiau, gwna i dalu pris teg i ti amdani.” 3Ond dyma Naboth yn gwrthod, “Na, dim ar unrhyw gyfri! Mae’r tir wedi perthyn i’r teulu ers cenedlaethau; allwn i byth ei rhoi hi i ti.#Numeri 36:74Felly dyma Ahab yn mynd yn ôl i’r palas yn sarrug a blin am fod Naboth wedi gwrthod rhoi’r winllan iddo. Dyma fe’n gorwedd ar ei wely wedi pwdu, a gwrthod bwyta. 5Yna dyma Jesebel, ei wraig, yn dod ato a gofyn, “Pam wyt ti mewn hwyliau mor ddrwg ac yn gwrthod bwyta?” 6A dyma fe’n dweud, “Gwnes i ofyn i Naboth werthu ei winllan i mi; neu os oedd yn well ganddo, gwnes i gynnig ei chyfnewid hi am winllan arall. Ond mae e wedi gwrthod rhoi’r winllan i mi.” 7A dyma Jesebel yn dweud, “Wyt ti’n frenin Israel neu ddim? Tyrd, bwyta rywbeth. Cod dy galon! Gwna i gael gafael ar winllan Naboth i ti.”
8Aeth ati i ysgrifennu llythyrau yn enw Ahab, rhoi sêl y brenin arnyn nhw, a’u hanfon at yr arweinwyr a’r bobl bwysig oedd yn byw yn yr un gymuned â Naboth. 9Dyma ysgrifennodd hi: “Cyhoeddwch ddiwrnod o ymprydio, a rhoi Naboth i eistedd mewn lle amlwg o flaen pawb. 10Yna ffeindiwch ddau ddyn drwg a’u gosod nhw i eistedd gyferbyn ag e, a’u cael nhw i gyhuddo Naboth yn gyhoeddus o fod wedi melltithio Duw a’r brenin. Wedyn ewch ag e allan a thaflu cerrig ato nes bydd wedi marw.”
11Dyma arweinwyr a phobl bwysig y gymuned yn gwneud yn union fel roedd Jesebel wedi dweud yn y llythyrau. 12Dyma nhw’n cyhoeddi diwrnod o ympryd, ac yn rhoi Naboth mewn lle amlwg o flaen y bobl. 13Dyma ddau ddyn drwg yn eistedd gyferbyn â Naboth, a’i gyhuddo o flaen pawb, a dweud, “Mae Naboth wedi melltithio Duw a’r brenin!” Felly dyma nhw’n mynd â Naboth allan o’r dre a thaflu cerrig ato nes roedd wedi marw. 14Yna, dyma nhw’n anfon neges at Jesebel, “Mae Naboth wedi cael ei ladd gyda cherrig.”
15Y funud y clywodd Jesebel fod Naboth wedi marw, dyma hi’n dweud wrth Ahab, “Cod, cymer y winllan roedd Naboth o Jesreel wedi gwrthod ei gwerthu i ti. Dydy Naboth ddim yn fyw; mae e wedi marw.” 16Pan glywodd Ahab fod Naboth wedi marw, dyma fe’n mynd i lawr i’r winllan i’w hawlio hi iddo’i hun.
17Ond yna, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Elias, 18“Dos i gyfarfod Ahab, brenin Israel, yn Samaria. Cei hyd iddo yng ngwinllan Naboth. Mae wedi mynd yno i hawlio’r winllan iddo’i hun. 19Dwed wrtho, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: Ar ôl llofruddio’r dyn, wyt ti hefyd am ddwyn ei eiddo?’ Dwed wrtho hefyd, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: Lle bu’r cŵn yn llyfu gwaed Naboth, bydd cŵn yn llyfu dy waed di hefyd – ie, ti!’”
20Dyma Ahab yn dweud wrth Elias, “Felly, fy ngelyn i, ti wedi dod o hyd i mi!” A dyma Elias yn ateb, “Ydw, dw i wedi dod o hyd i ti. Ti’n benderfynol o wneud pethau sy’n ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD! 21Mae’r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i’n mynd i wneud drwg i ti, a dod â dy linach i ben. Bydda i’n cael gwared â phob dyn a bachgen#21:21 dyn a bachgen Hebraeg, “un sy’n piso ar bared”. yn Israel, sy’n perthyn i Ahab, y caeth a’r rhydd. 22Bydda i’n gwneud yr un peth i dy linach di ag a wnes i i Jeroboam fab Nebat a Baasha fab Achïa am dy fod ti wedi fy ngwylltio i a gwneud i Israel bechu.’ 23A dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud am Jesebel, ‘Bydd cŵn yn bwyta Jesebel o fewn waliau Jesreel.’
24‘Bydd pobl Ahab sy’n marw yn y ddinas
yn cael eu bwyta gan y cŵn.
Bydd y rhai sy’n marw yng nghefn gwlad
yn cael eu bwyta gan yr adar!’”
25(Fuodd yna neb tebyg i Ahab, oedd mor benderfynol o wneud pethau oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD; ac roedd Jesebel ei wraig yn ei annog e. 26Roedd yn gwneud pethau hollol afiach, yn addoli eilunod diwerth yn union yr un fath â’r Amoriaid, y bobl roedd yr ARGLWYDD wedi’u gyrru allan o’r wlad o flaen Israel.)
27Pan glywodd Ahab neges Elias, dyma fe’n rhwygo’i ddillad a gwisgo sachliain, a mynd heb fwyd. Roedd yn cysgu mewn sachliain ac yn cerdded o gwmpas yn isel ei ysbryd. 28Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Elias, 29“Wyt ti wedi gweld fel mae Ahab wedi plygu mewn cywilydd o mlaen i? Am ei fod yn edifar, wna i ddim dod â’r drwg yn ystod ei fywyd e. Bydda i’n dinistrio’i linach pan fydd ei fab yn frenin.”

Dewis Presennol:

1 Brenhinoedd 21: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd