Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 22

22
Jehosaffat ac Ahab
(2 Cronicl 18:2-8)
1Aeth tair blynedd heibio heb i Israel a Syria fynd i ryfel yn erbyn ei gilydd. 2Yn ystod y drydedd flwyddyn aeth Jehosaffat, brenin Jwda, i ymweld â brenin Israel. 3Tra oedd e yno, dyma frenin Israel yn dweud wrth ei swyddogion, “Dych chi’n gwybod yn iawn mai ni sydd biau Ramoth-gilead, ond dŷn ni wedi gwneud dim i’w chymryd yn ôl oddi ar frenin Syria.” 4A dyma fe’n gofyn i Jehosaffat, “Ddoi di gyda mi i ymladd am Ramoth-gilead?” Atebodd Jehosaffat, “Dw i gyda ti, a bydd fy myddin i gyda dy fyddin di!” 5Yna dyma Jehosaffat yn ychwanegu, “Ond gad i ni’n gyntaf holi beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud.”
6Felly dyma frenin Israel yn casglu’r proffwydi at ei gilydd – roedd tua pedwar cant ohonyn nhw. Gofynnodd iddyn nhw, “Ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma nhw’n ateb, “Dos! Bydd y Meistr yn rhoi buddugoliaeth i’r brenin!” 7Ond dyma Jehosaffat yn gofyn, “Oes yna ddim un o broffwydi’r ARGLWYDD yma, i ni ofyn iddo fe hefyd?” 8A dyma frenin Israel yn ateb, “Oes, mae yna un dyn gallwn holi’r ARGLWYDD drwyddo. Ond dw i’n ei gasáu e, achos dydy e byth yn proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg. Ei enw e ydy Michea fab Imla.” “Paid siarad fel yna,” meddai Jehosaffat. 9Felly dyma frenin Israel yn galw swyddog draw a dweud wrtho, “Brysia! Tyrd â Michea fab Imla yma.”
Proffwydoliaeth Michea
(2 Cronicl 18:9-27)
10Roedd brenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn eu gwisgoedd brenhinol yn eistedd ar orseddau yn y sgwâr wrth y giât i ddinas Samaria. O’u blaenau roedd yr holl broffwydi wrthi’n proffwydo. 11Dyma Sedeceia fab Cenaana yn gwneud cyrn haearn. A dyma fe’n cyhoeddi, “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Byddi di’n cornio’r Syriaid gyda’r rhain, ac yn eu difa nhw.’” 12Ac roedd y proffwydi eraill i gyd yn dweud yr un fath. “Dos i ymosod ar Ramoth-gilead. Byddi’n ennill y frwydr! Mae’r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i ti.”
13Dyma’r un oedd wedi mynd i nôl Michea yn dweud wrtho, “Gwranda, mae’r proffwydi i gyd yn cytuno fod y brenin yn mynd i lwyddo. Dwed di’r un peth, a proffwyda lwyddiant iddo.” 14Ond dyma Michea’n ei ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, fydda i ond yn dweud beth fydd yr ARGLWYDD yn ei ddweud wrtho i.”
15Pan ddaeth e at y brenin dyma’r brenin yn gofyn iddo, “Michea, ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma fe’n ateb, “Dos di! Byddi’n llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i’r brenin.” 16Ond dyma’r brenin yn dweud wrtho, “Faint o weithiau ydw i wedi gwneud i ti addo o flaen yr ARGLWYDD y byddi’n dweud dim byd ond y gwir wrtho i?” 17A dyma Michea’n dweud,
“Gwelais Israel gyfan ar wasgar dros y bryniau,
fel defaid heb fugail.
A dyma’r ARGLWYDD yn dweud,
‘Does ganddyn nhw ddim meistri.
Dylen nhw i gyd fynd adre’n dawel.’”
18A dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Wnes i ddim dweud wrthot ti? Dydy hwn byth yn proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg.”
19A dyma Michea’n dweud eto, “Felly, gwrando ar neges yr ARGLWYDD. Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, a’i fyddin o angylion yn sefyll bob ochr iddo. 20A dyma’r ARGLWYDD yn gofyn, ‘Pwy sy’n gallu twyllo Ahab, a gwneud iddo ymosod ar Ramoth-gilead a chael ei ladd yno?’ Ac roedd pawb yn cynnig syniadau gwahanol. 21Ond yna dyma ysbryd yn dod a sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a dweud, ‘Gwna i ei dwyllo fe.’ A dyma’r ARGLWYDD yn gofyn iddo, ‘Sut?’ 22‘Gwna i fynd allan fel ysbryd celwyddog a siarad drwy ei broffwydi e,’ meddai. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dos i wneud hynny. Byddi’n llwyddo i’w dwyllo.’ 23Felly, wyt ti’n gweld? Mae’r ARGLWYDD wedi gwneud i dy broffwydi di i gyd ddweud celwydd. Mae’r ARGLWYDD am wneud drwg i ti.”
24Yna dyma Sedeceia fab Cenaana yn camu ymlaen a rhoi dyrnod i Michea ar ei ên, a gofyn, “Sut wnaeth Ysbryd yr ARGLWYDD fy ngadael i a dechrau siarad â ti?” 25A dyma Michea’n ateb, “Cei weld ar y diwrnod hwnnw pan fyddi di’n chwilio am ystafell o’r golwg yn rhywle i guddio ynddi!”
26Yna dyma frenin Israel yn dweud, “Arestiwch Michea a’i roi yng ngofal Amon, rheolwr y ddinas, a Joas fy mab. 27Dwedwch wrthyn nhw, ‘Mae’r brenin yn dweud, “Cadwch hwn yn y carchar, a rhoi dim byd ond ychydig fara a dŵr iddo nes bydda i wedi dod yn ôl yn saff.”’” 28A dyma Michea’n dweud, “Os ddoi di yn ôl yn saff, dydy’r ARGLWYDD ddim wedi siarad trwof fi.” A dyma fe’n dweud wrth y bobl oedd yno, “Cofiwch chi beth ddwedais i!”
Ahab yn cael ei ladd yn y frwydr
(2 Cronicl 18:28-34)
29Dyma frenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn mynd i ymosod ar Ramoth-gilead. 30A dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Dw i’n mynd i wisgo dillad gwahanol i fynd i ryfel, ond gwisga di dy ddillad brenhinol.” Felly dyma frenin Israel yn newid ei ddillad a mynd i’r frwydr.
31Roedd brenin Syria wedi rhoi gorchymyn i’r tri deg dau capten oedd ganddo ar ei gerbydau, “Peidiwch poeni ymladd gyda neb, yn filwyr cyffredin na swyddogion, dim ond gyda brenin Israel.” 32Pan welodd y capteiniaid Jehosaffat dyma nhw’n dweud, “Mae’n rhaid mai fe ydy brenin Israel!” Felly dyma nhw’n troi i fynd ar ei ôl. Ond wrth i Jehosaffat weiddi 33dyma nhw’n gweld mai nid brenin Israel oedd e, a dyma nhw’n gadael llonydd iddo. 34Yna dyma rhyw filwr yn digwydd saethu â’i fwa ar hap a tharo brenin Israel rhwng dau ddarn o’i arfwisg. A dyma’r brenin yn dweud wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro yn ôl! Dos â fi allan o’r frwydr. Dw i wedi cael fy anafu!” 35Aeth y frwydr yn ei blaen drwy’r dydd. Roedd y Brenin Ahab yn cael ei ddal i fyny yn ei gerbyd yn gwylio’r Syriaid. Yna gyda’r nos dyma fe’n marw. Roedd y gwaed o’i anaf wedi rhedeg dros lawr y cerbyd.
36Wrth i’r haul fachlud dyma waedd yn lledu drwy rengoedd y fyddin, “Mae ar ben! Pawb am adre i’w dref a’i ardal ei hun.” 37Roedd y brenin wedi marw, a dyma nhw’n mynd ag e i Samaria, a’i gladdu yno. 38Dyma nhw’n golchi’r cerbyd wrth bwll Samaria (lle roedd puteiniaid yn arfer ymolchi). A daeth cŵn yno i lyfu’r gwaed, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
39Mae gweddill hanes Ahab, a’r cwbl wnaeth e ei gyflawni (hanes y palas ifori a’r holl drefi wnaeth e adeiladu) i’w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. 40Bu farw Ahab, a daeth ei fab Ahaseia yn frenin yn ei le.
Jehosaffat, brenin Jwda
(2 Cronicl 20:31–21:1)
41Daeth Jehosaffat mab Asa yn frenin ar Jwda pan oedd Ahab wedi bod yn frenin Israel ers pedair blynedd. 42Roedd Jehosaffat yn dri deg pump pan ddaeth yn frenin, a bu’n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg pump o flynyddoedd. Aswba, merch Shilchi oedd ei fam.
43Fel Asa, ei dad, gwnaeth Jehosaffat beth oedd yn plesio’r ARGLWYDD. Ond wnaeth e ddim cael gwared â’r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw. 44Ac roedd Jehosaffat wedi gwneud cytundeb heddwch gyda brenin Israel.
45Mae gweddill hanes Jehosaffat – y cwbl wnaeth e lwyddo i’w wneud a’r rhyfeloedd wnaeth e eu hymladd – i’w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. 46Roedd e hefyd wedi gyrru allan o’r wlad weddill y puteiniaid teml oedd yn dal yno yng nghyfnod ei dad Asa.
47Doedd gan Edom ddim brenin ar y pryd, dim ond rhaglaw.
48Adeiladodd Jehosaffat longau masnach mawr#22:48 llongau masnach mawr Hebraeg, “Llongau Tarshish”, sef porthladd yn Sbaen. i fynd i Offir am aur; ond wnaethon nhw cyrraedd am eu bod wedi’u dryllio yn Etsion-geber. 49Roedd Ahaseia, mab Ahab, wedi awgrymu i Jehosaffat, “Gad i’n gweision ni forio gyda’i gilydd ar y llongau.” Ond roedd Jehosaffat wedi gwrthod. 50Pan fuodd Jehosaffat farw, cafodd ei gladdu gyda’i hynafiaid yn ninas Dafydd. Daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le.
51Roedd Jehosaffat wedi bod yn frenin ar Jwda am un deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Ahaseia mab Ahab yn frenin ar Israel yn Samaria. Bu’n frenin ar Israel am ddwy flynedd. 52Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac ymddwyn fel ei dad a’i fam, ac fel Jeroboam fab Nebat oedd wedi achosi i bobl Israel bechu. 53Roedd yn addoli Baal ac yn ymgrymu iddo. Roedd yn gwylltio’r ARGLWYDD, Duw Israel, yn union fel gwnaeth ei dad.

Dewis Presennol:

1 Brenhinoedd 22: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd