Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 20

20
Syria yn ymosod ar Israel
1Dyma Ben-hadad, brenin Syria, yn casglu ei fyddin i gyd. Roedd yna dri deg dau o frenhinoedd gydag e, gyda’u cerbydau a’u ceffylau. Aeth i warchae ar Samaria ac ymosod arni. 2A dyma fe’n anfon neges i’r ddinas at y Brenin Ahab. 3“Dyma mae Ben-hadad yn ei ddweud: ‘Fi piau dy arian di a dy aur di. Fi piau dy hoff wragedd di a dy blant di hefyd.’” 4A dyma frenin Israel yn ateb, “Iawn, fy mrenin, fy meistr! Ti sydd biau fi a phopeth sydd gen i.” 5Yna dyma’r negeswyr yn dod yn ôl ato eto a dweud, “Dyma mae Ben-hadad yn ei ddweud: ‘Dw i eisoes wedi dweud wrthot ti am roi dy arian, dy aur, dy wragedd a dy blant i mi. 6Tua’r adeg yma yfory dw i’n mynd i anfon fy ngweision atat ti, a byddan nhw’n chwilio drwy dy balas di a thai dy swyddogion, ac yn cymryd popeth gwerthfawr oddi arnat ti.’”
7Dyma frenin Israel yn galw holl arweinwyr y wlad at ei gilydd, a dweud, “Gwrandwch, mae’r dyn yma am greu helynt go iawn. Pan wnaeth e hawlio’r gwragedd a’r plant a’r holl arian a’r aur sydd gen i, wnes i ddim ei wrthod e.” 8A dyma’r arweinwyr a’r bobl yn dweud wrtho, “Paid gwrando arno! Paid cytuno.” 9Felly dyma Ahab yn dweud wrth negeswyr Ben-hadad, “Dwedwch wrth fy meistr, y brenin, ‘Dw i’n fodlon gwneud popeth wnest ti ofyn y tro cyntaf, ond alla i ddim cytuno i hyn.’” A dyma’r negeswyr yn mynd â’r ateb yn ôl i’w meistr.
10Yna dyma Ben-hadad yn anfon neges arall, “Boed i’r duwiau fy melltithio i, os bydd unrhyw beth ar ôl o Samaria ond llond dwrn o lwch i bob un o’r dynion sy’n fy nilyn i ei godi.” 11Ateb brenin Israel oedd, “Paid brolio wrth godi dy arfau; dim ond pan fyddi’n eu rhoi i lawr!” 12Roedd Ben-hadad yn diota yn ei babell gyda’r brenhinoedd eraill pan gafodd yr ateb yma. A dyma fe’n dweud wrth ei filwyr, “Paratowch i ymosod!” A dyma nhw’n paratoi i ymosod ar y ddinas.
Yr ARGLWYDD yn achub Israel
13Yr un pryd, dyma broffwyd yn mynd i weld Ahab, brenin Israel, a dweud wrtho, “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Wyt ti’n gweld y fyddin anferth yna? Heddiw dw i’n mynd i’w rhoi nhw’n dy law di, a byddi’n gwybod wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.’” 14A dyma Ahab yn gofyn, “Sut?” “Drwy swyddogion ifanc y taleithiau,” meddai’r proffwyd. Yna dyma Ahab yn gofyn, “Pwy fydd yn ymosod gyntaf?” “Ti,” meddai’r proffwyd. 15Felly dyma Ahab yn casglu swyddogion ifainc y taleithiau at ei gilydd, ac roedd yna ddau gant tri deg dau ohonyn nhw. Wedyn dyma fe’n casglu byddin Israel, ac roedd yna saith mil ohonyn nhw.
16-17Dyma nhw’n mynd allan tua hanner dydd, gyda swyddogion ifanc y taleithiau yn eu harwain. Roedd Ben-hadad a’r tri deg dau brenin oedd gydag e wedi yfed eu hunain yn chwil yn eu pebyll. A dyma’i sgowtiaid yn dod a dweud wrtho, “Mae yna filwyr yn dod allan o Samaria.” 18Dyma Ben-hadad yn dweud: “Daliwch nhw’n fyw – sdim ots os ydyn nhw am wneud heddwch neu am ymladd.” 19Swyddogion ifanc y taleithiau oedd yn arwain byddin Israel allan. 20A dyma nhw’n taro milwyr y gelyn nes i’r Syriaid orfod ffoi. Aeth Israel er eu holau, ond llwyddodd Ben-hadad i ddianc ar gefn ceffyl gyda’i farchogion. 21A dyna sut wnaeth brenin Israel orchfygu holl gerbydau a marchogion y gelyn. Cafodd y Syriaid eu trechu’n llwyr.
22Yna dyma’r proffwyd yn mynd at frenin Israel a dweud wrtho, “Rhaid i ti gryfhau’r amddiffynfeydd, a meddwl yn ofalus beth i’w wneud. Achos yn y gwanwyn bydd brenin Syria yn ymosod eto.”
Syria yn ymosod ar Israel eto
23Dyma swyddogion brenin Syria yn dweud wrtho, “Duw’r bryniau ydy eu duw nhw, a dyna pam wnaethon nhw’n curo ni. Os gwnawn ni eu hymladd nhw ar y gwastadedd byddwn ni’n siŵr o ennill. 24Dylen ni gael capteniaid milwrol i arwain y fyddin yn lle’r brenhinoedd yma. 25Yna casglu byddin at ei gilydd yn lle’r un wnest ti ei cholli, gyda’r un faint o geffylau a cherbydau. Os gwnawn ni i ymladd gyda nhw ar y gwastadedd, byddwn ni’n siŵr o ennill.” A dyma Ben-hadad yn gwneud beth roedden nhw’n ei awgrymu.
26Felly yn y gwanwyn dyma Ben-hadad yn casglu byddin Syria at ei gilydd, a mynd i ymladd yn erbyn Israel yn Affec. 27Roedd byddin Israel eisoes wedi’i galw allan ac wedi derbyn eu cyflenwadau, a dyma nhw’n mynd i ryfel. Ond roedd byddin Israel, gyferbyn â’r Syriaid, yn edrych fel dwy ddiadell fach o eifr o’i chymharu â byddin Syria oedd yn llenwi’r wlad!
28Yna dyma’r proffwyd yn mynd i weld brenin Israel, a dweud wrtho: “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am fod Syria wedi dweud mai Duw’r bryniau ydy’r ARGLWYDD, dim Duw’r dyffrynnoedd, dw i’n mynd i roi’r fyddin anferth yma yn dy law di. Byddi’n gwybod wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.’”
29Bu’r ddwy fyddin yn gwersylla gyferbyn â’i gilydd am saith diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod dyma’r ymladd yn dechrau. Lladdodd milwyr Israel gan mil o wŷr traed Syria mewn un diwrnod! 30Dyma’r gweddill yn ffoi i Affec, ond syrthiodd wal y ddinas a lladd dau ddeg saith mil ohonyn nhw. Roedd Ben-hadad wedi dianc i’r ddinas, ac yn cuddio mewn ystafell fewnol yno. 31A dyma’i swyddogion yn dweud wrtho, “Gwranda, dŷn ni wedi clywed fod brenhinoedd Israel yn garedig. Gad i ni wisgo sachliain, rhoi rhaffau am ein gyddfau a mynd allan at frenin Israel. Falle y bydd e’n arbed dy fywyd di.” 32Felly dyma nhw’n gwisgo sachliain a rhoi rhaffau am eu gyddfau a mynd allan at frenin Israel, a dweud, “Mae dy was, Ben-hadad yn gofyn, ‘Plîs, gad i mi fyw.’”
“Beth? Ydy e’n dal yn fyw?” meddai brenin Israel, “Mae e fel brawd#20:32 brawd Roedd y gair ‘brawd’ yn air cyffredin mewn cytundebau rhwng gwledydd yn y cyfnod yma,. i mi.” 33Roedd y dynion yn cymryd hyn fel arwydd da, a dyma nhw’n ymateb yn syth, “Ie, dy frawd di ydy Ben-hadad.” Felly dyma Ahab yn dweud, “Ewch i’w nôl e.” A phan ddaeth Ben-hadad dyma Ahab yn ei dderbyn i’w gerbyd. 34Dyma Ben-hadad yn dweud wrtho, “Dw i am roi’r trefi wnaeth fy nhad eu cymryd oddi ar dy dad di yn ôl i ti. A cei di sefydlu canolfannau marchnata yn Damascus, fel roedd fy nhad i wedi gwneud yn Samaria.” A dyma Ahab yn dweud, “Gwna i dy ollwng di’n rhydd ar yr amodau yma.” Felly dyma’r ddau’n gwneud cytundeb heddwch, a dyma Ben-hadad yn cael mynd yn rhydd.
Proffwyd yn ceryddu Ahab
35Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth un oedd yn aelod o urdd o broffwydi i ddweud wrth un arall, “Taro fi!” Ond dyma’r llall yn gwrthod. 36Felly meddai wrtho, “Am i ti wrthod gwrando ar yr ARGLWYDD, pan fyddi di’n fy ngadael i bydd llew yn ymosod arnat ti.” Ac wrth iddo fynd oddi wrtho dyma lew yn ymosod arno a’i ladd. 37Yna dyma’r proffwyd yn dweud wrth ddyn arall, “Taro fi!” A dyma hwnnw’n taro’r proffwyd yn galed a’i anafu.#20:37 “Taro fi!” … a’i anafu Mae’n debyg fod y proffwyd eisiau cymryd arno ei fod yn filwr wedi’i anafu – gw. adn. 39-40. 38Yna aeth y proffwyd i ddisgwyl ar ochr y ffordd am y brenin. Roedd wedi cuddio ei wyneb rhag iddo gael ei nabod. 39Pan ddaeth y brenin heibio, dyma’r proffwyd yn galw arno. “Rôn i yng nghanol y frwydr a dyma rywun yn rhoi carcharor i mi ofalu amdano. ‘Gwylia hwn!’ meddai wrtho i, ‘Os bydd e’n dianc byddi di’n talu â’th fywyd, neu dalu dirwy o dri deg pum cilogram o arian.’ 40Ond tra oedd dy was yn brysur yn gwneud hyn a’r llall, dyma’r carcharor yn diflannu.” Dyma’r brenin yn ei ateb, “Ti wedi dweud dy hun beth ydy’r gosb, ac felly bydd hi.” 41Ar unwaith dyma’r proffwyd yn dangos ei wyneb, a dyma frenin Israel yn sylweddoli ei fod yn un o’r proffwydi. 42Yna dyma’r proffwyd yn dweud wrth y brenin, “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am i ti ollwng yn rhydd y dyn roeddwn i wedi dweud oedd i farw, byddi di’n marw yn ei le, a bydd dy bobl di yn dioddef yn lle ei bobl e.’”
43Aeth brenin Israel yn ôl adre i Samaria yn sarrug a blin.

Dewis Presennol:

1 Brenhinoedd 20: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd