Rhufeiniaid 3
3
1Pa beth, ynteu, yw mantais yr Iddew, neu pa beth yw budd yr enwaediad? 2Llawer ym mhob modd. Yn gyntaf oll, ymddiried iddynt oraclau Duw. Pa wahaniaeth? 3Os anghredodd rhai, a ddiryma eu hanghrediniaeth hwy ffyddlondeb Duw? 4Na ato! Yn hytrach caffer Duw yn eirwir ond pob dyn yn gelwyddog,#Salm 116:11. fel yr ysgrifennwyd: Fel y cyfiawnhaer di yn dy eiriau, ac y gorchfygi pan farner di.#Salm 51:4. 5Eithr os dengys ein hanghyfiawnder ni gyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn Duw a ddwg arnom y digofaint? Yn null dyn y llefaraf. 6Na ato! Canys yna pa fodd y barn Duw y byd? 7Ond os ymhelaethodd gwirionedd Duw trwy fy nghelwydd i i’w ogoniant ef, paham y bernir finnau eto yn bechadur? 8A phaham na ddywedwn,#3:8 Ychwanegiad yw’r geiriau, A pham na ddywedwn. megis y ceblir ni, ac megis, medd rhywrai, y dywedwn, “gwnawn ddrygioni fel y delo daioni”? Cosb y cyfryw, cyfiawn yw.
9Beth ynteu? A ragorir arnom ni#3:9 Neu, a ragorwn ni? neu, a ymesgusodwn ni?? Dim o gwbl. Canys cyhuddasom eisoes Iddewon a Groegiaid, bawb, o fod dan bechod, 10fel yr ysgrifennwyd:
Nid oes cyfiawn, dim un.
11 Nid oes a ddeall, nid oes a gais Dduw;
12 Gŵyrodd pawb, ymlygrasant ynghyd;
Nid oes a wnêl ddaioni, nid oes hyd yn oed un. #
Salm 14:1.
13 Bedd agored yw eu gwddf.
Â’u tafodau twyllasant,
Gwenwyn asbiaid dan eu gwefusau; #
Salm 5:9.
14 Eu genau sy’n llawn melltith a chwerwedd; #
Salm 10:7.
15 Buan eu traed i dywallt gwaed, #
Esa. 59:7, 8.
16 Distryw a thrueni yn eu ffyrdd.
17 A ffordd tangnefedd nid adnabuant.
18 Nid yw ofn Duw gerbron eu llygaid. #
Salm 36:1.
19Gwyddom, pa bethau bynnag a ddywed y ddeddf, mai wrth y sawl sydd dan y ddeddf y llefara, fel y caeer pob genau ac y bo’r holl fyd dan farn Duw; 20oherwydd trwy weithredoedd deddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei ŵydd ef.#Salm 143:2. Canys trwy ddeddf y mae adnabyddiaeth o bechod.
21Ond yn awr ar wahân i ddeddf y mae cyfiawnder Duw wedi ei amlygu, a thystiolaeth iddo gan y ddeddf a’r proffwydi, 22a hwnnw yn gyfiawnder Duw trwy ffydd yn Iesu Grist i bawb a gred. 23Canys nid oes gwahaniaeth; oblegid pechodd pawb, ac amddifad ydynt o ogoniant Duw, 24a’u cyfiawnhau yn rhad gan ei ras ef, trwy’r brynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu, 25yr hwn a osododd Duw yn gymod drwy ffydd, yn ei waed ef, i arddangos ei gyfiawnder: oherwydd myned heibio yn hirymaros Duw i’r pechodau a gyflawnwyd gynt, 26fel yr arddangosai ei gyfiawnder y pryd hwn, ei fod ef yn gyfiawn ac yn gyfiawnhawr y neb sydd ganddo ffydd yn Iesu.
27Pa le, gan hynny, yr ymffrost? Wedi ei gau allan. Trwy ba fath ddeddf? Gweithredoedd? Nage, eithr trwy ddeddf ffydd. 28Canys cyfrifwn y cyfiawnheir dyn trwy ffydd, ar wahân i weithredoedd deddf. 29Ai Duw i Iddewon yn unig ydyw? Onid i genhedloedd hefyd? 30Ie, i genhedloedd hefyd, os yn wir un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnha’r enwaediad drwy ffydd, a’r dienwaediad drwy’r un ffydd. 31A ydym felly yn dirymu deddf trwy ffydd? Na ato! Yn hytrach cadarnhau deddf yr ydym.
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 3: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Cymharu
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945