Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 2

2
1Gan hynny diesgus wyt ti, ddyn, pwy bynnag wyt sy’n barnu; oblegid yn y peth y berni arall yr wyt yn dy gondemnio dy hun, canys yr wyt ti, y barnwr, yn gwneuthur yr un pethau. 2A gwyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd ar y sawl a wna’r cyfryw bethau. 3Ac a dybi di hyn, ddyn, tydi sy’n barnu’r sawl a wna’r cyfryw bethau, a thithau yn eu gwneuthur, y dihengi di rhag barn Duw? 4Neu a ddirmygi di olud ei diriondeb, a’i oddefgarwch, a’i hirymaros, heb wybod bod tiriondeb Duw yn d’arwain di i edifeirwch? 5Ond drwy dy galedwch a’th galon ddiedifar trysori yr wyt i ti dy hun ddigofaint yn nydd digofaint a datguddiad cyfiawn farn Duw, 6yr hwn a ddyry i bob un yn ôl ei weithredoedd#Diar. 24:12.; 7i’r naill, yn ddygn mewn gwaith da, a gais ogoniant ac anrhydedd ac anllygredigaeth, fywyd tragwyddol; 8i’r lleill, y cynhennus ac anufudd i’r gwirionedd ond ufudd i anghyfiawnder, 9bydd digofaint a llid, gorthrymder a chyfyngder ar bob enaid o ddyn a gyflawna’r peth sy ddrwg, Iddew yn gyntaf, a Groegwr; 10eithr gogoniant, ac anrhydedd, a thangnefedd, i bob un a wna’r peth sy dda, Iddew yn gyntaf, a Groegwr. 11Canys nid oes derbyn wyneb gyda Duw. 12Oblegid cynifer ag a bechodd heb ddeddf, heb ddeddf a gollir hefyd; a chynifer ag a bechodd dan ddeddf, wrth ddeddf a fernir; 13canys nid gwrandawyr deddf sy gyfiawn gyda Duw, ond gweithredwyr deddf a gyfiawnheir. 14Oherwydd pan fo Cenhedloedd nad oes deddf ganddynt yn gwneuthur wrth natur bethau’r ddeddf, hwynt-hwy, heb ddeddf ganddynt, sy ddeddf iddynt eu hunain, 15y rhai a ddengys waith y ddeddf yn ysgrifenedig ar eu calonnau, a’u cydwybod yn cyd-dystio, a’u rhesymau rhyngddynt a’i gilydd yn cyhuddo neu efallai yn amddiffyn; 16yn y dydd y barn Duw gudd bethau dynion, yn ôl fy efengyl i, trwy Iesu Grist.
17Ond tydi, os Iddew yr enwir di, a gorffwys ohonot ar ddeddf, ac ymffrostio yn Nuw, 18a gwybod ei ewyllys, a chymeradwyo’r pethau sy’n rhagori,#2:18 Neu, a phrofi’r pethau sy’n gwahaniaethu. am dy hyfforddi o’r ddeddf, 19a chennyt hyder amdanat dy hun, dy fod yn arweinydd deillion, yn oleuni’r sawl sy mewn tywyllwch, 20yn ddisgyblydd rhai angall, yn athro rhai bach, am fod gennyt yn y ddeddf gynllun gwybodaeth a gwirionedd, 21ti, ynteu, sy’n dysgu arall, oni’th ddysgi dy hun? Ti, sy’n pregethu na ladrater, a ladreti di? 22Ti, sy’n dywedyd na odineber, a odinebi di? Ti, sy’n ffieiddio eilunod, a ysbeili di demlau? 23Ti, sy’n ymffrostio mewn deddf, a ddianrhydeddi di Dduw trwy droseddu’r ddeddf? 24Canys enw Duw o’ch achos chwi a geblir ymhlith y cenhedloedd,#Esa. 53:5. fel yr ysgrifennwyd.
25Buddiol yn ddiau yw enwaediad, os cedwi ddeddf, ond os troseddwr deddf ydwyt, aeth dy enwaediad yn ddienwaediad. 26Os bydd i’r dienwaediad, felly, gadw ordeiniadau’r ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad yn enwaediad? 27A’r dienwaediad wrth natur, drwy gyflawni’r ddeddf, a’th farn di, sydd gyda’th lythyren a’th enwaediad yn droseddwr deddf. 28Canys nid yr Iddew oddi allan sydd Iddew, ac nid yr enwaediad oddi allan mewn cnawd sydd enwaediad; 29yn hytrach yr Iddew oddi mewn sydd Iddew, ac enwaediad calon, mewn ysbryd nid mewn llythyren, sydd enwaediad, a’i glod, nid o ddynion ond o Dduw.

Dewis Presennol:

Rhufeiniaid 2: CUG

Uwcholeuo

Rhanna

Cymharu

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda