Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sechareia 11:1-17

Sechareia 11:1-17 BWM

Libanus, agor dy ddorau, fel yr yso y tân dy gedrwydd. Y ffynidwydd, udwch; canys cwympodd y cedrwydd, difwynwyd y rhai ardderchog: udwch, dderw Basan; canys syrthiodd coedwig y gwin-gynhaeaf. Y mae llef udfa y bugeiliaid! am ddifwyno eu hardderchowgrwydd: llef rhuad y llewod ieuainc! am ddifwyno balchder yr Iorddonen. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD fy NUW; Portha ddefaid y lladdfa; Y rhai y mae eu perchenogion yn eu lladd, heb dybied eu bod yn euog; a’u gwerthwyr a ddywedant, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, am fy nghyfoethogi: a’u bugeiliaid nid arbedant hwynt. Canys nid arbedaf mwyach drigolion y wlad, medd yr ARGLWYDD; ond wele fi yn rhoddi y dynion bob un i law ei gymydog, ac i law ei frenin; a hwy a drawant y tir, ac nid achubaf hwynt o’u llaw hwy. A mi a borthaf ddefaid y lladdfa, sef chwi, drueiniaid y praidd. A chymerais i mi ddwy ffon; un a elwais Hyfrydwch, a’r llall a elwais Rhwymau; a mi a borthais y praidd. A thorrais ymaith dri bugail mewn un mis; a’m henaid a alarodd arnynt hwy, a’u henaid hwythau a’m ffieiddiodd innau. Dywedais hefyd, Ni phorthaf chwi: a fyddo farw, bydded farw; ac y sydd i’w dorri ymaith, torrer ef ymaith; a’r gweddill, ysant bob un gnawd ei gilydd. A chymerais fy ffon Hyfrydwch, a thorrais hi, i dorri fy nghyfamod yr hwn a amodaswn â’r holl bobl. A’r dydd hwnnw y torrwyd hi: ac felly y gwybu trueiniaid y praidd, y rhai oedd yn disgwyl wrthyf fi, mai gair yr ARGLWYDD oedd hyn. A dywedais wrthynt, Os gwelwch yn dda, dygwch fy ngwerth; ac onid e, peidiwch: a’m gwerth a bwysasant yn ddeg ar hugain o arian. A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Bwrw ef i’r crochenydd: pris teg â’r hwn y’m prisiwyd ganddynt. A chymerais y deg ar hugain arian, a bwriais hwynt i dŷ yr ARGLWYDD, i’r crochenydd. Yna mi a dorrais fy ail ffon, sef Rhwymau, i dorri y brawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Cymer eto i ti offer bugail ffôl. Canys wele fi yn codi bugail yn y tir, yr hwn ni ofwya y cuddiedig, ni chais yr ieuanc, ni feddyginiaetha y briwedig, a fyddo yn sefyll ni phortha; ond bwyty gig y bras, ac a ddryllia eu hewinedd hwynt. Gwae yr eilun bugail, yn gadael y praidd: y cleddyf fydd ar ei fraich, ac ar ei lygad deau: ei fraich gan wywo a wywa, a’i lygad deau gan dywyllu a dywylla.