Sechareia 11:1-17
Sechareia 11:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Agor dy giatiau, Libanus, a bydd tân yn llosgi dy goed cedrwydd. Bydd y coed pinwydd yn udo, am fod y coed cedrwydd wedi syrthio – mae’r coed mawreddog wedi’u difrodi. Bydd coed derw Bashan yn udo, am fod y goedwig drwchus wedi’i thorri i lawr. Gwrandwch ar y bugeiliaid yn udo – am fod y borfa odidog wedi’i difetha! Gwrandwch ar y llewod ifanc yn rhuo – am fod coedwig yr Iorddonen wedi’i difa! Dyma mae’r ARGLWYDD fy Nuw yn ei ddweud: “Bugeilia’r praidd sydd i fynd i’r lladd-dy. Mae’r rhai sy’n eu prynu yn eu lladd heb deimlo unrhyw gywilydd. Mae’r rhai sy’n eu gwerthu yn diolch i’r ARGLWYDD am eu gwneud nhw’n gyfoethog. A dydy’r bugeiliaid yn poeni dim amdanyn nhw. Ac o hyn ymlaen, fydda i’n poeni dim am bobl y wlad yma,” meddai’r ARGLWYDD. “Bydda i’n eu troi nhw yn erbyn ei gilydd, a rhoi pob un yng ngafael ei frenin. Bydd y rheiny’n dod â dinistr i’r wlad, a fydda i’n achub neb o’u gafael.” Felly dyma fi’n bugeilio’r praidd oedd i fynd i’r lladd-dy ar ran y masnachwyr. Cymerais ddwy ffon, a galw un yn ‘Haelioni’ a’r llall yn ‘Undod’. Yna es i fugeilio’r praidd a diswyddo’r tri bugail mewn un mis. Rôn i wedi colli pob amynedd gyda’r masnachwyr, a doedd ganddyn nhw ddim parch ata i chwaith. Yna dyma fi’n dweud wrthyn nhw, “Dw i ddim am ofalu am y praidd i chi! Y rhai sydd i farw, cân nhw farw. Y rhai sydd i fynd ar goll, cân nhw fynd ar goll. A’r rhai fydd yn dal yn fyw, cân nhw fwyta cnawd ei gilydd!” Yna dyma fi’n cymryd fy ffon ‘Haelioni’, a’i thorri, i ddangos fod yr ymrwymiad wnes i gyda phobl Israel i gyd wedi’i ganslo. Cafodd ei ganslo y diwrnod hwnnw, ac roedd y masnachwyr oedd yn fy ngwylio i yn gwybod fod hyn yn neges gan yr ARGLWYDD. Yna dyma fi’n dweud wrthyn nhw, “Os ydych chi’n fodlon, rhowch fy nghyflog i mi. Os na, anghofiwch am y peth.” Felly dyma nhw’n talu tri deg darn arian yn gyflog i mi. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Tafla eu harian ‘hael’ nhw i’r trysordy!” Dyna’r cwbl roedden nhw’n meddwl oeddwn i’n werth! Felly dyma fi’n rhoi’r arian i drysordy teml yr ARGLWYDD. Yna dyma fi’n cymryd y ffon arall, ‘Undod’, a thorri honno, i ddangos fod y berthynas rhwng Jwda ac Israel wedi dod i ben. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Cymer offer bugail eto – bugail da i ddim. Dw i’n rhoi arweinydd i’r wlad yma – bugail fydd yn poeni dim am y defaid sy’n marw, nac yn mynd i chwilio am y rhai sydd wedi crwydro. Fydd e ddim yn iacháu’r rhai sydd wedi’u hanafu, nac yn bwydo’r rhai iach. Ond bydd yn bwyta cig yr ŵyn gorau, a thorri eu carnau i ffwrdd. Mae ar ben ar fy mugail diwerth sy’n troi cefn ar y praidd! Bydd cleddyf yn taro ei fraich ac yn anafu ei lygad dde. Bydd yn colli defnydd o’i fraich, ac yn cael ei ddallu yn ei lygad dde!”
Sechareia 11:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Agor dy byrth, O Lebanon, er mwyn i dân ysu dy gedrwydd. Galarwch, ffynidwydd; oherwydd syrthiodd y cedrwydd, dinistriwyd y coed cryfion. Galarwch, dderw Basan, oherwydd syrthiodd y goedwig drwchus. Clywch alarnadu'r bugeiliaid, am i'w gogoniant gael ei ddinistrio; clywch ru'r llewod, am i goedwig yr Iorddonen gael ei difetha. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD fy Nuw: “Portha'r praidd sydd i'w lladd. Bydd y sawl sy'n eu prynu yn eu lladd heb deimlo'n euog; bydd y sawl sy'n eu gwerthu yn dweud, ‘Bendigedig fo'r ARGLWYDD, cefais gyfoeth’; ac ni fydd eu bugeiliaid yn tosturio wrthynt. Yn wir, ni thosturiaf mwy wrth drigolion y wlad,” medd yr ARGLWYDD. “Wele fi'n gwneud i bawb syrthio i ddwylo'i gilydd ac i ddwylo'u brenin; ac fel y dinistrir y wlad, ni waredaf neb o'u gafael.” Porthais y praidd a oedd i'w lladd ar gyfer y marchnatwyr. Cymerais ddwy ffon, a galw'r naill, Trugaredd, a'r llall, Undeb; a phorthais y praidd. Mewn un mis diswyddais dri o'r bugeiliaid am imi flino arnynt, ac yr oeddent hwythau'n fy nghasáu innau. Yna dywedais, “Ni fugeiliaf chwi; y rhai sydd i farw, bydded iddynt farw, a'r rhai sydd i'w dinistrio, bydded iddynt fynd i ddinistr; a bydded i'r rhai sy'n weddill fwyta cnawd ei gilydd.” A chymerais fy ffon Trugaredd a'i thorri, gan ddiddymu'r cyfamod a wneuthum â'r holl bobloedd. Fe'i diddymwyd y dydd hwnnw, a gwyddai'r marchnatwyr a edrychai arnaf mai gair yr ARGLWYDD oedd hyn. A dywedais wrthynt, “Os yw'n dderbyniol gennych, rhowch imi fy nghyflog; os nad yw, peidiwch.” A bu iddynt hwythau bwyso fy nghyflog, deg darn ar hugain o arian. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Bwrw ef i'r drysorfa—y pris teg a osodwyd arnaf, i'm troi ymaith!” A chymerais y deg darn ar hugain a'u bwrw i'r drysorfa yn nhŷ'r ARGLWYDD. Yna torrais yr ail ffon, Undeb, gan ddiddymu'r frawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cymer eto offer bugail diwerth, oherwydd yr wyf yn codi yn y wlad fugail na fydd yn gofalu am y ddafad golledig, nac yn ceisio'r grwydredig, nac yn gwella'r friwedig, nac yn porthi'r iach, ond a fydd yn bwyta cnawd y rhai bras ac yn rhwygo'u traed i ffwrdd. “Gwae'r bugail diwerth, sy'n gadael y praidd. Trawed y cleddyf ei fraich a'i lygad de; bydded ei fraich yn gwbl ddiffrwyth, a'i lygad de yn hollol ddall.”
Sechareia 11:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Libanus, agor dy ddorau, fel yr yso y tân dy gedrwydd. Y ffynidwydd, udwch; canys cwympodd y cedrwydd, difwynwyd y rhai ardderchog: udwch, dderw Basan; canys syrthiodd coedwig y gwin-gynhaeaf. Y mae llef udfa y bugeiliaid! am ddifwyno eu hardderchowgrwydd: llef rhuad y llewod ieuainc! am ddifwyno balchder yr Iorddonen. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD fy NUW; Portha ddefaid y lladdfa; Y rhai y mae eu perchenogion yn eu lladd, heb dybied eu bod yn euog; a’u gwerthwyr a ddywedant, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, am fy nghyfoethogi: a’u bugeiliaid nid arbedant hwynt. Canys nid arbedaf mwyach drigolion y wlad, medd yr ARGLWYDD; ond wele fi yn rhoddi y dynion bob un i law ei gymydog, ac i law ei frenin; a hwy a drawant y tir, ac nid achubaf hwynt o’u llaw hwy. A mi a borthaf ddefaid y lladdfa, sef chwi, drueiniaid y praidd. A chymerais i mi ddwy ffon; un a elwais Hyfrydwch, a’r llall a elwais Rhwymau; a mi a borthais y praidd. A thorrais ymaith dri bugail mewn un mis; a’m henaid a alarodd arnynt hwy, a’u henaid hwythau a’m ffieiddiodd innau. Dywedais hefyd, Ni phorthaf chwi: a fyddo farw, bydded farw; ac y sydd i’w dorri ymaith, torrer ef ymaith; a’r gweddill, ysant bob un gnawd ei gilydd. A chymerais fy ffon Hyfrydwch, a thorrais hi, i dorri fy nghyfamod yr hwn a amodaswn â’r holl bobl. A’r dydd hwnnw y torrwyd hi: ac felly y gwybu trueiniaid y praidd, y rhai oedd yn disgwyl wrthyf fi, mai gair yr ARGLWYDD oedd hyn. A dywedais wrthynt, Os gwelwch yn dda, dygwch fy ngwerth; ac onid e, peidiwch: a’m gwerth a bwysasant yn ddeg ar hugain o arian. A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Bwrw ef i’r crochenydd: pris teg â’r hwn y’m prisiwyd ganddynt. A chymerais y deg ar hugain arian, a bwriais hwynt i dŷ yr ARGLWYDD, i’r crochenydd. Yna mi a dorrais fy ail ffon, sef Rhwymau, i dorri y brawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Cymer eto i ti offer bugail ffôl. Canys wele fi yn codi bugail yn y tir, yr hwn ni ofwya y cuddiedig, ni chais yr ieuanc, ni feddyginiaetha y briwedig, a fyddo yn sefyll ni phortha; ond bwyty gig y bras, ac a ddryllia eu hewinedd hwynt. Gwae yr eilun bugail, yn gadael y praidd: y cleddyf fydd ar ei fraich, ac ar ei lygad deau: ei fraich gan wywo a wywa, a’i lygad deau gan dywyllu a dywylla.