Ac mi a welais angel yn disgyn o’r nef, a chanddo agoriad y pydew diwaelod, a chadwyn fawr yn ei law. Ac efe a ddaliodd y ddraig, yr hen sarff, yr hon yw Diafol a Satan, ac a’i rhwymodd ef dros fil o flynyddoedd, Ac a’i bwriodd ef i’r pydew diwaelod, ac a gaeodd arno, ac a seliodd arno ef, fel na thwyllai efe’r cenhedloedd mwyach, nes cyflawni’r mil o flynyddoedd: ac ar ôl hynny rhaid yw ei ollwng ef yn rhydd dros ychydig amser.
Darllen Datguddiad 20
Gwranda ar Datguddiad 20
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Datguddiad 20:1-3
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos