Datguddiad 20:1-3
Datguddiad 20:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna gwelais angel yn dod i lawr o’r nefoedd, gyda’r allwedd i’r pydew diwaelod, ac roedd cadwyn drom yn ei law. Gafaelodd yn y ddraig (yr hen sarff, sef ‘y diafol’, ‘Satan’), a’i rhwymo’n gaeth am fil o flynyddoedd. Dyma’r angel yn ei thaflu hi i lawr i’r pydew diwaelod, ai gloi a’i selio er mwyn rhwystro’r ddraig rhag twyllo’r cenhedloedd ddim mwy, nes bydd y mil o flynyddoedd drosodd. Ar ôl hynny mae’n rhaid iddi gael ei gollwng yn rhydd am gyfnod byr.
Datguddiad 20:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwelais angel yn disgyn o'r nef, a chanddo yn ei law allwedd y dyfnder a chadwyn fawr. Gafaelodd yn y ddraig, yr hen sarff, sef Diafol a Satan, a rhwymodd hi am fil o flynyddoedd. Bwriodd hi i'r dyfnder, a chloi'r pwll a'i selio arni rhag iddi dwyllo'r cenhedloedd eto, nes i'r mil blynyddoedd ddod i ben; ar ôl hynny, rhaid ei gollwng yn rhydd am ychydig amser.
Datguddiad 20:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac mi a welais angel yn disgyn o’r nef, a chanddo agoriad y pydew diwaelod, a chadwyn fawr yn ei law. Ac efe a ddaliodd y ddraig, yr hen sarff, yr hon yw Diafol a Satan, ac a’i rhwymodd ef dros fil o flynyddoedd, Ac a’i bwriodd ef i’r pydew diwaelod, ac a gaeodd arno, ac a seliodd arno ef, fel na thwyllai efe’r cenhedloedd mwyach, nes cyflawni’r mil o flynyddoedd: ac ar ôl hynny rhaid yw ei ollwng ef yn rhydd dros ychydig amser.