Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 24:13-28

Josua 24:13-28 BWM

A mi a roddais i chwi wlad ni lafuriasoch amdani, a dinasoedd y rhai nid adeiladasoch, ac yr ydych yn trigo ynddynt: o’r gwinllannoedd a’r olewlannoedd ni phlanasoch, yr ydych yn bwyta ohonynt. Yn awr gan hynny ofnwch yr ARGLWYDD, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o’r tu hwnt i’r afon, ac yn yr Aifft; a gwasanaethwch chwi yr ARGLWYDD. Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasanaethu yr ARGLWYDD, dewiswch i chwi heddiw pa un a wasanaethoch, ai y duwiau a wasanaethodd eich tadau, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon, ai ynteu duwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond myfi, mi a’m tylwyth a wasanaethwn yr ARGLWYDD. Yna yr atebodd y bobl, ac y dywedodd, Na ato DUW i ni adael yr ARGLWYDD, i wasanaethu duwiau dieithr; Canys yr ARGLWYDD ein DUW yw yr hwn a’n dug ni i fyny a’n tadau o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed; a’r hwn a wnaeth y rhyfeddodau mawrion hynny yn ein gŵydd ni, ac a’n cadwodd ni yn yr holl ffordd y rhodiasom ynddi, ac ymysg yr holl bobloedd y tramwyasom yn eu plith: A’r ARGLWYDD a yrrodd allan yr holl bobloedd, a’r Amoriaid, preswylwyr y wlad, o’n blaen ni: am hynny ninnau a wasanaethwn yr ARGLWYDD; canys efe yw ein DUW ni. A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ni ellwch wasanaethu yr ARGLWYDD; canys DUW sancteiddiol yw efe: DUW eiddigus yw; ni ddioddef efe eich anwiredd, na’ch pechodau. O gwrthodwch yr ARGLWYDD, a gwasanaethu duwiau dieithr; yna efe a dry, ac a’ch dryga chwi, ac efe a’ch difa chwi, wedi iddo wneuthur i chwi ddaioni. A’r bobl a ddywedodd wrth Josua, Nage; eithr ni a wasanaethwn yr ARGLWYDD. A dywedodd Josua wrth y bobl, Tystion ydych yn eich erbyn eich hun, ddewis ohonoch i chwi yr ARGLWYDD i’w wasanaethu. Dywedasant hwythau, Tystion ydym. Am hynny yn awr (eb efe) bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg, a gostyngwch eich calon at ARGLWYDD DDUW Israel. A’r bobl a ddywedasant wrth Josua, Yr ARGLWYDD ein DUW a wasanaethwn, ac ar ei lais ef y gwrandawn. Felly Josua a wnaeth gyfamod â’r bobl y dwthwn hwnnw, ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau yn Sichem. A Josua a ysgrifennodd y geiriau hyn yn llyfr cyfraith DDUW, ac a gymerth faen mawr, ac a’i gosododd i fyny yno dan dderwen oedd yn agos i gysegr yr ARGLWYDD. A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl, Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau yr ARGLWYDD, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi, rhag i chwi wadu eich DUW. Felly Josua a ollyngodd y bobl, bob un i’w etifeddiaeth.