Josua 24:13-28
Josua 24:13-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fi wnaeth roi’r tir i chi. Wnaethoch chi ddim gweithio amdano, a wnaethoch chi ddim adeiladu’r trefi. Dych chi’n bwyta ffrwyth gwinllannoedd a choed olewydd wnaethoch chi mo’u plannu. “Felly byddwch yn ufudd i’r ARGLWYDD, a’i addoli o ddifrif. Taflwch i ffwrdd y duwiau hynny roedd eich hynafiaid yn eu haddoli yr ochr arall i afon Ewffrates, a duwiau’r Aifft. Addolwch yr ARGLWYDD. Os nad ydych chi am addoli’r ARGLWYDD, penderfynwch heddiw pwy dych chi am ei addoli. Y duwiau roedd eich hynafiaid yn eu haddoli yr ochr arall i’r Ewffrates? Neu falle dduwiau’r Amoriaid dych chi’n byw ar eu tir nhw? Ond dw i a’m teulu yn mynd i addoli’r ARGLWYDD!” Dyma’r bobl yn ymateb, “Fydden ni ddim yn meiddio troi cefn ar yr ARGLWYDD i addoli duwiau eraill! Yr ARGLWYDD ein Duw wnaeth ein hachub ni a’n hynafiaid o fod yn gaethweision yn yr Aifft, a gwneud gwyrthiau rhyfeddol o flaen ein llygaid. Fe wnaeth ein cadw ni’n saff ar y daith, wrth i ni basio drwy diroedd gwahanol bobl. Yr ARGLWYDD wnaeth yrru’r bobloedd i gyd allan o’n blaenau ni, gan gynnwys yr Amoriaid oedd yn byw yn y wlad yma. Felly dŷn ni hefyd am addoli’r ARGLWYDD. Ein Duw ni ydy e.” Yna dyma Josua yn rhybuddio’r bobl, “Wnewch chi ddim dal ati i addoli’r ARGLWYDD. Mae e’n Dduw sanctaidd. Mae e’n Dduw eiddigeddus. Fydd e ddim yn maddau i chi am wrthryfela a phechu yn ei erbyn. Mae e wedi bod mor dda atoch chi! Os byddwch chi’n troi cefn arno ac yn addoli duwiau eraill, bydd e’n troi yn eich erbyn chi, yn achosi trychineb ac yn eich dinistrio chi!” Ond dyma’r bobl yn dweud wrth Josua, “Na! Dŷn ni’n mynd i addoli’r ARGLWYDD!” Felly dyma Josua yn gofyn i’r bobl, “Ydych chi’n derbyn eich bod chi’n atebol iddo ar ôl gwneud y penderfyniad yma i addoli’r ARGLWYDD?” A dyma nhw’n dweud, “Ydyn, dŷn ni’n atebol.” “Iawn,” meddai Josua, “taflwch y duwiau eraill sydd gynnoch chi i ffwrdd, a rhoi eich hunain yn llwyr i’r ARGLWYDD, Duw Israel.” A dyma’r bobl yn dweud wrth Josua, “Dŷn ni’n mynd i addoli’r ARGLWYDD ein Duw, a gwrando arno.” Felly dyma Josua yn gwneud cytundeb gyda’r bobl, a gosod rheolau a chanllawiau iddyn nhw yn Sichem. A dyma fe’n ysgrifennu’r cwbl yn Sgrôl Cyfraith Duw. Wedyn dyma fe’n cymryd carreg fawr, a’i gosod i fyny o dan y goeden dderwen oedd wrth ymyl cysegr yr ARGLWYDD. A dyma fe’n dweud wrth y bobl, “Mae’r garreg yma wedi clywed popeth mae’r ARGLWYDD wedi’i ddweud wrthon ni. Bydd yn dyst yn eich erbyn chi os gwnewch chi droi cefn ar Dduw.” Yna dyma Josua yn gadael i’r bobl fynd, a dyma nhw i gyd yn mynd adre i’w tir eu hunain.
Josua 24:13-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Rhoddais ichwi wlad nad oeddech wedi llafurio ynddi, a chawsoch drefi i fyw ynddynt heb ichwi eu hadeiladu; a chawsoch gynhaliaeth o winllannoedd ac olewydd na fu i chwi eu plannu.’ “Am hynny ofnwch yr ARGLWYDD, gwasanaethwch ef yn ddidwyll ac yn ffyddlon; bwriwch ymaith y duwiau y bu'ch hynafiaid yn eu gwasanaethu y tu hwnt i'r Afon ac yn yr Aifft. Gwasanaethwch yr ARGLWYDD; ac oni ddymunwch wasanaethu'r ARGLWYDD, dewiswch ichwi'n awr pwy a wasanaethwch: ai'r duwiau a wasanaethodd eich hynafiaid pan oeddent y tu hwnt i'r Afon, ai ynteu duwiau'r Amoriaid yr ydych yn byw yn eu gwlad? Ond byddaf fi a'm teulu yn gwasanaethu'r ARGLWYDD.” Atebodd y bobl a dweud, “Pell y bo oddi wrthym adael yr ARGLWYDD i wasanaethu duwiau estron! Oherwydd yr ARGLWYDD ein Duw a ddaeth â ni a'n tadau i fyny o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed, ac a wnaeth yr arwyddion mawr hyn yn ein gŵydd, a'n cadw bob cam o'r ffordd y daethom, ac ymysg yr holl bobloedd y buom yn tramwy yn eu plith. Hefyd gyrrodd yr ARGLWYDD allan o'n blaen yr holl bobloedd a'r Amoriaid oedd yn y wlad. Yr ydym ninnau hefyd am wasanaethu'r ARGLWYDD, oherwydd ef yw ein Duw.” Ond dywedodd Josua wrth y bobl, “Ni fedrwch wasanaethu'r ARGLWYDD, oherwydd y mae'n Dduw sanctaidd, ac yn Dduw eiddigus, ac ni fydd yn maddau eich troseddau a'ch pechodau. Os gadewch yr ARGLWYDD a gwasanaethu duwiau estron, bydd yn troi ac yn gwneud niwed i chwi ac yn eich difodi, er yr holl dda a wnaeth i chwi.” Dywedodd y bobl wrth Josua, “Na, yr ydym am wasanaethu'r ARGLWYDD.” Yna dywedodd Josua wrth y bobl, “Yr ydych yn dystion yn eich erbyn eich hunain i chwi ddewis gwasanaethu'r ARGLWYDD.” Atebasant hwythau, “Tystion ydym.” “Yn awr ynteu,” meddai, “bwriwch allan y duwiau estron sydd yn eich mysg, a throwch eich calon at yr ARGLWYDD, Duw Israel.” Dywedodd y bobl wrth Josua, “Fe addolwn yr ARGLWYDD ein Duw, a gwrandawn ar ei lais ef.” Gwnaeth Josua gyfamod â'r bobl y diwrnod hwnnw yn Sichem, a gosod deddf a chyfraith ar eu cyfer. Ysgrifennodd y geiriau hynny yn llyfr cyfraith Duw, a chymryd maen mawr a'i osod i fyny yno o dan dderwen oedd yng nghysegr yr ARGLWYDD. Dywedodd wrth yr holl bobl, “Edrychwch, bydd y maen hwn yn dystiolaeth yn ein herbyn, oherwydd clywodd yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD wrthym, a bydd yn dystiolaeth yn eich erbyn os byddwch yn gwadu eich Duw.” Yna gollyngodd Josua'r bobl, bob un i'w etifeddiaeth.
Josua 24:13-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A mi a roddais i chwi wlad ni lafuriasoch amdani, a dinasoedd y rhai nid adeiladasoch, ac yr ydych yn trigo ynddynt: o’r gwinllannoedd a’r olewlannoedd ni phlanasoch, yr ydych yn bwyta ohonynt. Yn awr gan hynny ofnwch yr ARGLWYDD, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o’r tu hwnt i’r afon, ac yn yr Aifft; a gwasanaethwch chwi yr ARGLWYDD. Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasanaethu yr ARGLWYDD, dewiswch i chwi heddiw pa un a wasanaethoch, ai y duwiau a wasanaethodd eich tadau, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon, ai ynteu duwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond myfi, mi a’m tylwyth a wasanaethwn yr ARGLWYDD. Yna yr atebodd y bobl, ac y dywedodd, Na ato DUW i ni adael yr ARGLWYDD, i wasanaethu duwiau dieithr; Canys yr ARGLWYDD ein DUW yw yr hwn a’n dug ni i fyny a’n tadau o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed; a’r hwn a wnaeth y rhyfeddodau mawrion hynny yn ein gŵydd ni, ac a’n cadwodd ni yn yr holl ffordd y rhodiasom ynddi, ac ymysg yr holl bobloedd y tramwyasom yn eu plith: A’r ARGLWYDD a yrrodd allan yr holl bobloedd, a’r Amoriaid, preswylwyr y wlad, o’n blaen ni: am hynny ninnau a wasanaethwn yr ARGLWYDD; canys efe yw ein DUW ni. A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ni ellwch wasanaethu yr ARGLWYDD; canys DUW sancteiddiol yw efe: DUW eiddigus yw; ni ddioddef efe eich anwiredd, na’ch pechodau. O gwrthodwch yr ARGLWYDD, a gwasanaethu duwiau dieithr; yna efe a dry, ac a’ch dryga chwi, ac efe a’ch difa chwi, wedi iddo wneuthur i chwi ddaioni. A’r bobl a ddywedodd wrth Josua, Nage; eithr ni a wasanaethwn yr ARGLWYDD. A dywedodd Josua wrth y bobl, Tystion ydych yn eich erbyn eich hun, ddewis ohonoch i chwi yr ARGLWYDD i’w wasanaethu. Dywedasant hwythau, Tystion ydym. Am hynny yn awr (eb efe) bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg, a gostyngwch eich calon at ARGLWYDD DDUW Israel. A’r bobl a ddywedasant wrth Josua, Yr ARGLWYDD ein DUW a wasanaethwn, ac ar ei lais ef y gwrandawn. Felly Josua a wnaeth gyfamod â’r bobl y dwthwn hwnnw, ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau yn Sichem. A Josua a ysgrifennodd y geiriau hyn yn llyfr cyfraith DDUW, ac a gymerth faen mawr, ac a’i gosododd i fyny yno dan dderwen oedd yn agos i gysegr yr ARGLWYDD. A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl, Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau yr ARGLWYDD, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi, rhag i chwi wadu eich DUW. Felly Josua a ollyngodd y bobl, bob un i’w etifeddiaeth.