Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 10:1-13

Hosea 10:1-13 BWM

Gwinwydden wag yw Israel; efe a ddwg ffrwyth iddo ei hun: yn ôl amlder ei ffrwyth yr amlhaodd efe allorau; yn ôl daioni ei dir gwnaethant ddelwau teg. Eu calon a ymrannodd; yn awr y ceir hwy yn feius: efe a dyr i lawr eu hallorau hwynt; efe a ddistrywia eu delwau. Canys yr awr hon y dywedant, Nid oes i ni frenin, am nad ofnasom yr ARGLWYDD; a pheth a wnâi brenin i ni? Dywedasant eiriau, gan dyngu anudon wrth wneuthur amod; tarddodd barn megis wermod yn rhychau y meysydd. Preswylwyr Samaria a ofnant oherwydd lloeau Beth-afen; canys ei bobl a alara drosto, a’i offeiriaid y rhai a lawenychant ynddo, o achos ei ogoniant, am iddo ymado oddi wrtho ef. Hefyd efe a ddygir i Asyria yn anrheg i frenin Jareb: Effraim a dderbyn gywilydd, ac Israel a fydd cywilydd ganddo ei gyngor ei hun. Samaria, ei brenin a dorrir ymaith fel ewyn ar wyneb y dwfr. A distrywir uchelfeydd Afen, pechod Israel; dring drain a mieri ar eu hallorau: a dywedant wrth y mynyddoedd, Gorchuddiwch ni; ac wrth y bryniau, Syrthiwch arnom. O Israel, ti a bechaist er dyddiau Gibea: yno y safasant; a’r rhyfel yn Gibea yn erbyn plant anwiredd ni oddiweddodd hwynt. Wrth fy ewyllys y cosbaf hwynt: a phobl a gesglir yn eu herbyn, pan ymrwymont yn eu dwy gŵys. Ac Effraim sydd anner wedi ei dysgu, yn dda ganddi ddyrnu; a minnau a euthum dros degwch ei gwddf hi: paraf i Effraim farchogaeth: Jwda a ardd, a Jacob a lyfna iddo. Heuwch i chwi mewn cyfiawnder, medwch mewn trugaredd; braenerwch i chwi fraenar: canys y mae yn amser i geisio yr ARGLWYDD, hyd oni ddelo a glawio cyfiawnder arnoch. Arddasoch i chwi ddrygioni, medasoch anwiredd, bwytasoch ffrwyth celwydd; am i ti ymddiried yn dy ffordd dy hun, yn lluosowgrwydd dy gedyrn.