Actau’r Apostolion 9:18-43
Actau’r Apostolion 9:18-43 BWM
Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddi wrth ei lygaid ef megis cen: ac efe a gafodd ei olwg yn y man; ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd. Ac wedi iddo gymryd bwyd, efe a gryfhaodd. A bu Saul gyda’r disgyblion oedd yn Namascus dalm o ddyddiau. Ac yn ebrwydd yn y synagogau efe a bregethodd Grist, mai efe yw Mab Duw. A phawb a’r a’i clybu ef, a synasant, ac a ddywedasant, Onid hwn yw yr un oedd yn difetha yn Jerwsalem y rhai a alwent ar yr enw hwn, ac a ddaeth yma er mwyn hyn, fel y dygai hwynt yn rhwym at yr archoffeiriaid? Eithr Saul a gynyddodd fwyfwy o nerth, ac a orchfygodd yr Iddewon oedd yn preswylio yn Namascus, gan gadarnhau mai hwn yw y Crist. Ac wedi cyflawni llawer o ddyddiau, cydymgynghorodd yr Iddewon i’w ladd ef. Eithr eu cydfwriad hwy a wybuwyd gan Saul: a hwy a ddisgwyliasant y pyrth ddydd a nos, i’w ladd ef. Yna y disgyblion a’i cymerasant ef o hyd nos, ac a’i gollyngasant i waered dros y mur mewn basged. A Saul, wedi ei ddyfod i Jerwsalem, a geisiodd ymwasgu â’r disgyblion: ac yr oeddynt oll yn ei ofni ef, heb gredu ei fod ef yn ddisgybl. Eithr Barnabas a’i cymerodd ef, ac a’i dug at yr apostolion, ac a fynegodd iddynt pa fodd y gwelsai efe yr Arglwydd ar y ffordd, ac ymddiddan ohono ag ef, ac mor hy a fuasai efe yn Namascus yn enw yr Iesu. Ac yr oedd efe gyda hwynt, yn myned i mewn ac yn myned allan, yn Jerwsalem. A chan fod yn hy yn enw yr Arglwydd Iesu, efe a lefarodd ac a ymddadleuodd yn erbyn y Groegiaid; a hwy a geisiasant ei ladd ef. A’r brodyr, pan wybuant, a’i dygasant ef i waered i Cesarea, ac a’i hanfonasant ef ymaith i Darsus. Yna yr eglwysi trwy holl Jwdea, a Galilea, a Samaria, a gawsant heddwch, ac a adeiladwyd; a chan rodio yn ofn yr Arglwydd, ac yn niddanwch yr Ysbryd Glân, hwy a amlhawyd. A bu, a Phedr yn tramwy trwy’r holl wledydd, iddo ddyfod i waered at y saint hefyd y rhai oedd yn trigo yn Lyda. Ac efe a gafodd yno ryw ddyn a’i enw Aeneas, er ys wyth mlynedd yn gorwedd ar wely, yr hwn oedd glaf o’r parlys. A Phedr a ddywedodd wrtho, Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iacháu di: cyfod, a chyweiria dy wely. Ac efe a gyfododd yn ebrwydd. A phawb a’r oedd yn preswylio yn Lyda a Saron a’i gwelsant ef, ac a ymchwelasant at yr Arglwydd. Ac yn Jopa yr oedd rhyw ddisgybles a’i henw Tabitha, (yr hon os cyfieithir a elwir Dorcas;) hon oedd yn llawn o weithredoedd da ac elusennau, y rhai a wnaethai hi. A digwyddodd yn y dyddiau hynny iddi fod yn glaf, a marw: ac wedi iddynt ei golchi, hwy a’i dodasant hi mewn llofft. Ac oherwydd bod Lyda yn agos i Jopa, y disgyblion a glywsant fod Pedr yno; ac a anfonasant ddau ŵr ato ef, gan ddeisyf nad oedai ddyfod hyd atynt hwy. A Phedr a gyfododd, ac a aeth gyda hwynt. Ac wedi ei ddyfod, hwy a’i dygasant ef i fyny i’r llofft: a’r holl wragedd gweddwon a safasant yn ei ymyl ef yn wylo, ac yn dangos y peisiau a’r gwisgoedd a wnaethai Dorcas tra ydoedd hi gyda hwynt. Eithr Pedr, wedi eu bwrw hwy i gyd allan, a dodi ei liniau ar lawr, a weddïodd; a chan droi at y corff, a ddywedodd, Tabitha, cyfod. A hi a agorodd ei llygaid; a phan welodd hi Pedr, hi a gododd yn ei heistedd. Ac efe a roddodd ei law iddi, ac a’i cyfododd hi i fyny. Ac wedi galw y saint a’r gwragedd gweddwon, efe a’i gosododd hi gerbron yn fyw. A hysbys fu trwy holl Jopa; a llawer a gredasant yn yr Arglwydd. A bu iddo aros yn Jopa lawer o ddyddiau gydag un Simon, barcer.





