Actau 9:18-43 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Actau 9:18-43 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Yr eiliad honno dyma rywbeth tebyg i gen yn syrthio oddi ar lygaid Saul, ac roedd yn gallu gweld eto. Cododd ar ei draed a chafodd ei fedyddio. Wedyn cymerodd rywbeth i’w fwyta, a chael ei gryfder yn ôl. Arhosodd Saul gyda’r disgyblion yn Damascus am beth amser. Aeth ati ar unwaith i bregethu yn y synagogau mai Iesu ydy Mab Duw. Roedd pawb a’i clywodd wedi’u syfrdanu. “Onid dyma’r dyn wnaeth achosi’r fath drafferth i’r rhai yn Jerwsalem sy’n dilyn yr Iesu yna? Roedden ni’n meddwl ei fod wedi dod yma ar ran y prif offeiriaid i arestio’r bobl hynny a’u rhoi yn y carchar.” Roedd pregethu Saul yn mynd yn gryfach ac yn gryfach bob dydd, a doedd yr Iddewon yn Damascus ddim yn gallu dadlau yn ei erbyn wrth iddo brofi mai Iesu ydy’r Meseia. Felly ar ôl peth amser dyma’r arweinwyr Iddewig yn cynllwynio i’w ladd. Ond clywodd Saul am eu bwriad, a’r ffaith eu bod yn gwylio giatiau’r ddinas yn ofalus ddydd a nos er mwyn ei ddal a’i lofruddio. Felly dyma rhai o’r credinwyr yn ei ollwng i lawr mewn basged drwy agoriad yn wal y ddinas. Pan gyrhaeddodd Saul Jerwsalem, ceisiodd fynd at y credinwyr yno, ond roedd ganddyn nhw ei ofn. Doedden nhw ddim yn credu ei fod wedi dod yn Gristion go iawn. Ond dyma Barnabas yn ei dderbyn, ac yn mynd ag e at yr apostolion. Dwedodd wrthyn nhw sut gwelodd Saul yr Arglwydd pan oedd yn teithio i Damascus, a beth oedd yr Arglwydd wedi’i ddweud wrtho. Hefyd dwedodd ei fod wedi pregethu am Iesu yn gwbl ddi-ofn pan oedd yn Damascus. Felly cafodd ei dderbyn gan yr apostolion, ac roedd yn mynd o gwmpas Jerwsalem yn gwbl agored yn dweud wrth bawb am yr Arglwydd Iesu. Buodd yn siarad ac yn dadlau gyda rhyw Iddewon Groegaidd, ond y canlyniad oedd iddyn nhw benderfynu ei ladd. Pan glywodd y credinwyr am y peth, dyma nhw’n mynd â Saul i Cesarea, ac yna ei anfon yn ei flaen i Tarsus lle roedd ei gartref. Ar ôl hyn cafodd yr eglwys yn Jwdea, Galilea a Samaria gyfnod o dawelwch a llwyddiant – roedd ffydd y credinwyr yn cryfhau ac roedd eu niferoedd yn tyfu hefyd. Roedden nhw’n byw mewn ffordd oedd yn dangos eu bod yn ofni’r Arglwydd, a’r Ysbryd Glân yn eu hannog yn eu blaenau. Roedd Pedr yn teithio o gwmpas y wlad, ac aeth i ymweld â’r Cristnogion oedd yn Lyda. Yno daeth ar draws dyn o’r enw Aeneas, oedd wedi’i barlysu ac wedi bod yn gaeth i’w wely ers wyth mlynedd. Dyma Pedr yn dweud wrtho, “Aeneas, mae Iesu y Meseia am dy iacháu di. Cod ar dy draed a phlyga dy fatras.” Cafodd Aeneas ei iacháu ar unwaith. Dyma pawb oedd yn byw yn Lyda a Sharon yn troi at yr Arglwydd pan welon nhw Aeneas yn cerdded. Yna yn Jopa roedd disgybl o’r enw Tabitha (Dorcas fyddai ei henw yn yr iaith Roeg). Roedd hi bob amser wedi gwneud daioni a helpu pobl dlawd, ond tua’r adeg yna aeth yn glaf, a buodd farw. Cafodd ei chorff ei olchi a’i osod i orwedd mewn ystafell i fyny’r grisiau. Pan glywodd y credinwyr fod Pedr yn Lyda (sydd ddim yn bell iawn o Jopa), dyma nhw’n anfon dau ddyn ato i ofyn iddo, “Plîs, tyrd ar unwaith!” Aeth Pedr gyda nhw, ac wedi iddo gyrraedd dyma fynd ag e i fyny’r grisiau i’r ystafell. Roedd yr ystafell yn llawn o wragedd gweddwon yn eu dagrau yn dangos iddo’r mentyll a’r dillad eraill roedd Dorcas wedi’u gwneud iddyn nhw pan oedd hi’n dal yn fyw. Dyma Pedr yn anfon pawb allan o’r ystafell, ac yna aeth ar ei liniau a gweddïo. Yna trodd at gorff y wraig oedd wedi marw, a dweud wrthi, “Tabitha, cod ar dy draed.” Agorodd ei llygaid! A phan welodd Pedr eisteddodd i fyny. Gafaelodd Pedr yn ei llaw a’i helpu i sefyll ar ei thraed. Wedyn galwodd Pedr y credinwyr a’r gwragedd gweddwon yn ôl i mewn a dangos iddyn nhw fod Dorcas yn fyw. Dyma’r newyddion yn mynd ar led drwy dre Jopa fel tân gwyllt, a daeth llawer iawn o bobl i gredu yn yr Arglwydd. Arhosodd Pedr yno am gryn amser, yn lletya yn nhŷ gweithiwr lledr o’r enw Simon.
Actau 9:18-43 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar unwaith syrthiodd rhywbeth fel cen oddi ar ei lygaid, a chafodd ei olwg yn ôl. Cododd, ac fe'i bedyddiwyd, a chymerodd luniaeth ac ymgryfhaodd. Bu gyda'r disgyblion oedd yn Namascus am rai dyddiau, ac ar unwaith dechreuodd bregethu Iesu yn y synagogau, a chyhoeddi mai Mab Duw oedd ef. Yr oedd pawb oedd yn ei glywed yn rhyfeddu. “Onid dyma'r dyn,” meddent, “a wnaeth ddifrod yn Jerwsalem ar y rhai sy'n galw ar yr enw hwn? Ac onid i hyn yr oedd wedi dod yma, sef i fynd â hwy yn rhwym at y prif offeiriaid?” Ond yr oedd Saul yn ymrymuso fwyfwy, ac yn drysu'r Iddewon oedd yn byw yn Namascus wrth brofi mai Iesu oedd y Meseia. Fel yr oedd dyddiau lawer yn mynd heibio, cynllwyniodd yr Iddewon i'w ladd. Ond daeth eu cynllwyn yn hysbys i Saul. Yr oeddent hefyd yn gwylio'r pyrth ddydd a nos er mwyn ei ladd ef. Ond cymerodd ei ddisgyblion ef yn y nos a'i ollwng i lawr y mur, gan ei ostwng mewn basged. Wedi iddo gyrraedd Jerwsalem ceisiodd ymuno â'r disgyblion; ond yr oedd ar bawb ei ofn, gan nad oeddent yn credu ei fod yn ddisgybl. Ond cymerodd Barnabas ef a mynd ag ef at yr apostolion, ac adroddodd wrthynt fel yr oedd wedi gweld yr Arglwydd ar y ffordd, ac iddo siarad ag ef, ac fel yr oedd wedi llefaru yn hy yn Namascus yn enw Iesu. Bu gyda hwy, yn mynd i mewn ac allan yn Jerwsalem, gan lefaru'n hy yn enw yr Arglwydd; byddai'n siarad ac yn dadlau â'r Iddewon Groeg eu hiaith, ond yr oeddent hwy'n ceisio'i ladd ef. Pan ddaeth y credinwyr i wybod, aethant ag ef i lawr i Gesarea, a'i anfon ymaith i Darsus. Yr oedd yr eglwys yn awr, drwy holl Jwdea a Galilea a Samaria, yn cael heddwch. Yr oedd yn cryfhau, a thrwy rodio yn ofn yr Arglwydd ac yn niddanwch yr Ysbryd Glân, yn mynd ar gynnydd. Pan oedd Pedr yn mynd ar daith ac yn galw heibio i bawb, fe ddaeth i lawr at y saint oedd yn trigo yn Lyda. Yno cafodd ryw ddyn o'r enw Aeneas, a oedd yn gorwedd ers wyth mlynedd ar ei fatras, wedi ei barlysu. Dywedodd Pedr wrtho, “Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iacháu di; cod, a chyweiria dy wely.” Ac fe gododd ar unwaith. Gwelodd holl drigolion Lyda a Saron ef, a throesant at yr Arglwydd. Yr oedd yn Jopa ryw ddisgybl o'r enw Tabitha; ystyr hyn, o'i gyfieithu, yw Dorcas. Yr oedd hon yn llawn o weithredoedd da ac o elusennau. Yr adeg honno fe glafychodd, a bu farw. Golchasant ei chorff a'i roi i orwedd mewn ystafell ar y llofft. A chan fod Lyda yn agos i Jopa, pan glywodd y disgyblion fod Pedr yno, anfonasant ddau ddyn ato i ddeisyf arno, “Tyrd drosodd atom heb oedi.” Cododd Pedr ac aeth gyda hwy. Wedi iddo gyrraedd, aethant ag ef i fyny i'r ystafell, a safodd yr holl wragedd gweddwon yn ei ymyl dan wylo a dangos y crysau a'r holl ddillad yr oedd Dorcas wedi eu gwneud pan oedd gyda hwy. Ond trodd Pedr bawb allan, a phenliniodd a gweddïo, a chan droi at y corff meddai, “Tabitha, cod.” Agorodd hithau ei llygaid, a phan welodd Pedr, cododd ar ei heistedd. Rhoddodd yntau ei law iddi a'i chodi, a galwodd y saint a'r gwragedd gweddwon, a'i chyflwyno iddynt yn fyw. Aeth y peth yn hysbys drwy Jopa i gyd, a daeth llawer i gredu yn yr Arglwydd. Arhosodd Pedr am beth amser yn Jopa gyda rhyw farcer o'r enw Simon.
Actau 9:18-43 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddi wrth ei lygaid ef megis cen: ac efe a gafodd ei olwg yn y man; ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd. Ac wedi iddo gymryd bwyd, efe a gryfhaodd. A bu Saul gyda’r disgyblion oedd yn Namascus dalm o ddyddiau. Ac yn ebrwydd yn y synagogau efe a bregethodd Grist, mai efe yw Mab Duw. A phawb a’r a’i clybu ef, a synasant, ac a ddywedasant, Onid hwn yw yr un oedd yn difetha yn Jerwsalem y rhai a alwent ar yr enw hwn, ac a ddaeth yma er mwyn hyn, fel y dygai hwynt yn rhwym at yr archoffeiriaid? Eithr Saul a gynyddodd fwyfwy o nerth, ac a orchfygodd yr Iddewon oedd yn preswylio yn Namascus, gan gadarnhau mai hwn yw y Crist. Ac wedi cyflawni llawer o ddyddiau, cydymgynghorodd yr Iddewon i’w ladd ef. Eithr eu cydfwriad hwy a wybuwyd gan Saul: a hwy a ddisgwyliasant y pyrth ddydd a nos, i’w ladd ef. Yna y disgyblion a’i cymerasant ef o hyd nos, ac a’i gollyngasant i waered dros y mur mewn basged. A Saul, wedi ei ddyfod i Jerwsalem, a geisiodd ymwasgu â’r disgyblion: ac yr oeddynt oll yn ei ofni ef, heb gredu ei fod ef yn ddisgybl. Eithr Barnabas a’i cymerodd ef, ac a’i dug at yr apostolion, ac a fynegodd iddynt pa fodd y gwelsai efe yr Arglwydd ar y ffordd, ac ymddiddan ohono ag ef, ac mor hy a fuasai efe yn Namascus yn enw yr Iesu. Ac yr oedd efe gyda hwynt, yn myned i mewn ac yn myned allan, yn Jerwsalem. A chan fod yn hy yn enw yr Arglwydd Iesu, efe a lefarodd ac a ymddadleuodd yn erbyn y Groegiaid; a hwy a geisiasant ei ladd ef. A’r brodyr, pan wybuant, a’i dygasant ef i waered i Cesarea, ac a’i hanfonasant ef ymaith i Darsus. Yna yr eglwysi trwy holl Jwdea, a Galilea, a Samaria, a gawsant heddwch, ac a adeiladwyd; a chan rodio yn ofn yr Arglwydd, ac yn niddanwch yr Ysbryd Glân, hwy a amlhawyd. A bu, a Phedr yn tramwy trwy’r holl wledydd, iddo ddyfod i waered at y saint hefyd y rhai oedd yn trigo yn Lyda. Ac efe a gafodd yno ryw ddyn a’i enw Aeneas, er ys wyth mlynedd yn gorwedd ar wely, yr hwn oedd glaf o’r parlys. A Phedr a ddywedodd wrtho, Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iacháu di: cyfod, a chyweiria dy wely. Ac efe a gyfododd yn ebrwydd. A phawb a’r oedd yn preswylio yn Lyda a Saron a’i gwelsant ef, ac a ymchwelasant at yr Arglwydd. Ac yn Jopa yr oedd rhyw ddisgybles a’i henw Tabitha, (yr hon os cyfieithir a elwir Dorcas;) hon oedd yn llawn o weithredoedd da ac elusennau, y rhai a wnaethai hi. A digwyddodd yn y dyddiau hynny iddi fod yn glaf, a marw: ac wedi iddynt ei golchi, hwy a’i dodasant hi mewn llofft. Ac oherwydd bod Lyda yn agos i Jopa, y disgyblion a glywsant fod Pedr yno; ac a anfonasant ddau ŵr ato ef, gan ddeisyf nad oedai ddyfod hyd atynt hwy. A Phedr a gyfododd, ac a aeth gyda hwynt. Ac wedi ei ddyfod, hwy a’i dygasant ef i fyny i’r llofft: a’r holl wragedd gweddwon a safasant yn ei ymyl ef yn wylo, ac yn dangos y peisiau a’r gwisgoedd a wnaethai Dorcas tra ydoedd hi gyda hwynt. Eithr Pedr, wedi eu bwrw hwy i gyd allan, a dodi ei liniau ar lawr, a weddïodd; a chan droi at y corff, a ddywedodd, Tabitha, cyfod. A hi a agorodd ei llygaid; a phan welodd hi Pedr, hi a gododd yn ei heistedd. Ac efe a roddodd ei law iddi, ac a’i cyfododd hi i fyny. Ac wedi galw y saint a’r gwragedd gweddwon, efe a’i gosododd hi gerbron yn fyw. A hysbys fu trwy holl Jopa; a llawer a gredasant yn yr Arglwydd. A bu iddo aros yn Jopa lawer o ddyddiau gydag un Simon, barcer.