Canys ein cyngor ni nid oedd o hudoliaeth nac o aflendid, nac mewn twyll: Eithr megis y’n cyfrifwyd ni gan Dduw yn addas i ymddiried i ni am yr efengyl, felly yr ydym yn llefaru; nid megis yn rhyngu bodd i ddynion, ond i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau ni. Oblegid ni fuom ni un amser mewn ymadrodd gwenieithus, fel y gwyddoch chwi, nac mewn rhith cybydd-dod; Duw yn dyst: Nac yn ceisio moliant gan ddynion, na chennych chwi, na chan eraill; lle y gallasem bwyso arnoch, fel apostolion Crist. Eithr ni a fuom addfwyn yn eich mysg chwi, megis mamaeth yn maethu ei phlant. Felly, gan eich hoffi chwi, ni a welsom yn dda gyfrannu â chwi, nid yn unig efengyl Duw, ond ein heneidiau ein hunain hefyd, am eich bod yn annwyl gennym.
Darllen 1 Thesaloniaid 2
Gwranda ar 1 Thesaloniaid 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Thesaloniaid 2:3-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos