1 Thesaloniaid 2:3-8
1 Thesaloniaid 2:3-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Doedden ni ddim yn dweud celwydd wrth geisio’ch argyhoeddi chi, nac yn gwneud dim o gymhellion anghywir, nac yn ceisio’ch tricio chi. Na, fel arall yn hollol! Dŷn ni’n cyhoeddi’r neges am fod Duw wedi’n trystio ni gyda’r newyddion da. Dim ceisio plesio pobl dŷn ni’n ei wneud, ond ceisio plesio Duw. Mae e’n gwybod beth sy’n ein calonnau ni. Dych chi’n gwybod ein bod ni ddim wedi ceisio’ch seboni chi. A doedden ni ddim yn ceisio dwyn eich arian chi chwaith – mae Duw’n dyst i hynny! Doedden ni ddim yn chwilio am ganmoliaeth gan bobl – gynnoch chi na neb arall. Gallen ni fod wedi gofyn i chi’n cynnal ni, gan ein bod ni’n gynrychiolwyr personol i’r Meseia, ond wnaethon ni ddim. Buon ni’n addfwyn gyda chi, fel mam yn magu ei phlant ar y fron. Gan ein bod ni’n eich caru chi gymaint, roedden ni’n barod i roi’n bywydau drosoch chi yn ogystal â rhannu newyddion da Duw gyda chi. Roeddech chi mor annwyl â hynny yn ein golwg ni.
1 Thesaloniaid 2:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd nid yw ein hapêl ni yn codi o gyfeiliornad, na chwaith o amhurdeb, ac nid oes ynddi dwyll; yn hytrach, fel y cawsom ein profi'n gymeradwy gan Dduw i gael ymddiried yr Efengyl inni, yr ydym yn llefaru fel rhai sy'n boddhau, nid meidrolion ond Duw, yr hwn sy'n profi ein calonnau. Oherwydd, fel y gwyddoch, ni buom un amser yn arfer geiriau gweniaith, na chwaith ffalster i gelu trachwant—fel y mae Duw'n dyst. Ac nid oeddem yn ceisio gogoniant gan bobl, gennych chwi na neb arall, er y gallasem, fel apostolion Crist, fod yn ddynion o bwys. Ond buom yn addfwyn yn eich plith, fel mamaeth yn meithrin ei phlant ei hun. Felly, yn ein hoffter ohonoch, yr oedd yn dda gennym gyfrannu i chwi, nid yn unig Efengyl Duw, ond nyni ein hunain hefyd, gan i chwi ddod yn annwyl gennym.
1 Thesaloniaid 2:3-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys ein cyngor ni nid oedd o hudoliaeth nac o aflendid, nac mewn twyll: Eithr megis y’n cyfrifwyd ni gan Dduw yn addas i ymddiried i ni am yr efengyl, felly yr ydym yn llefaru; nid megis yn rhyngu bodd i ddynion, ond i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau ni. Oblegid ni fuom ni un amser mewn ymadrodd gwenieithus, fel y gwyddoch chwi, nac mewn rhith cybydd-dod; Duw yn dyst: Nac yn ceisio moliant gan ddynion, na chennych chwi, na chan eraill; lle y gallasem bwyso arnoch, fel apostolion Crist. Eithr ni a fuom addfwyn yn eich mysg chwi, megis mamaeth yn maethu ei phlant. Felly, gan eich hoffi chwi, ni a welsom yn dda gyfrannu â chwi, nid yn unig efengyl Duw, ond ein heneidiau ein hunain hefyd, am eich bod yn annwyl gennym.