S. Matthew 7
7
1Na fernwch, fel na’ch barner; canys â’r farn â’r hon y bernwch, y’ch bernir; 2ac â’r mesur â’r hwn y mesurwch, y mesurir i chwi. 3A phaham y gweli y brycheuyn y sydd yn llygad dy frawd, ond y trawst y sydd yn dy lygad dy hun nad ystyri? 4Neu, pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gâd i mi fwrw allan y brycheuyn o’th lygad, ac wele y trawst y sydd yn dy lygad di? 5O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o’th lygad dy hun, ac yna y gweli yn eglur i fwrw allan y brycheuyn o lygad dy frawd.
6Na roddwch y peth sanctaidd i’r cŵn, ac na theflwch eich gemmau o flaen y moch, rhag ysgatfydd iddynt eu sathru hwynt â’u traed, a throi a’ch rhwygo chwi.
7Gofynwch, a rhoddir i chwi: ceisiwch, a chewch: curwch, ac agorir i chwi; 8canys pob un y sy’n gofyn, sy’n derbyn; a’r neb sy’n ceisio, sy’n cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. 9Pwy sydd o honoch, ac efe yn ddyn, i’r hwn y gofyn ei fab fara, a rydd garreg iddo; 10neu os pysgodyn a ofyn efe, a rydd sarph iddo? 11Os, gan hyny, chwychwi, a chwi yn ddrwg, a wyddoch pa sut i roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y gwna eich Tad y sydd yn y nefoedd, roddi pethau da i’r rhai sy’n gofyn Iddo? 12Gan hyny, yr holl bethau, cymmaint ag a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau hefyd iddynt hwy; canys hyn yw’r Gyfraith a’r Prophwydi.
13Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng; canys ehang yw’r porth, a llydan y ffordd sy’n arwain i’r distryw, a llawer yw y rhai yn myned i mewn trwyddi; 14canys cul yw’r porth, a chyfyng y ffordd sydd yn arwain i’r bywyd, ac ychydig yw y rhai yn ei chael hi.
15Gwyliwch rhag y gau-brophwydi, y rhai a ddeuant attoch yngwisgoedd defaid, ond oddimewn y maent yn fleiddiaid rheibus: wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. 16Ai oddi ar ddrain y casglant rawnwin; neu oddi ar ysgall, ffigys? 17Felly pob pren da, ffrwythau da a ddwg efe; a’r pren llygredig, ffrwythau drwg a ddwg efe. 18Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren llygredig ddwyn ffrwythau da. 19Pob pren nad yw’n dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac i’r tân y’i teflir; 20ac felly wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. 21Nid pob un y sy’n dywedyd Wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd, ond yr hwn sy’n gwneuthur ewyllys Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd. 22Llawer a ddywedant Wrthyf yn y dydd hwnw, Arglwydd, Arglwydd, onid yn Dy enw Di y prophwydasom; ac yn Dy enw Di y bwriasom allan gythreuliaid; ac yn Dy enw Di gwyrthiau lawer a wnaethom? 23Ac yna yr addefaf wrthynt, Erioed ni’s adnabum chwi: ewch ymaith Oddiwrthyf y rhai yn gweithredu anghyfraith. 24Pob un, gan hyny, y sy’n clywed y geiriau hyn mau Fi ac yn eu gwneuthur, cyffelyb fydd i ŵr doeth yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig: 25a disgynodd y gwlaw, a daeth yr afonydd, a chwythodd y gwyntoedd, a rhuthrasant ar y tŷ hwnw, ac ni syrthiodd, canys sylfaenesid ar y graig. 26A phob un y sy’n clywed y geiriau hyn mau Fi, ac nad yw yn eu gwneuthur, cyffelyb fydd i ŵr ynfyd, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod; 27a disgynodd y gwlaw, a daeth yr afonydd, a chwythodd y gwyntoedd, a churasant ar y tŷ hwnw, a chwympodd efe, ac yr oedd ei gwymp yn fawr.
28A bu pan orphenodd yr Iesu y geiriau hyn, bu aruthr gan y torfeydd o herwydd Ei ddysgad, 29canys yr oedd Efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel eu hysgrifenyddion.
Dewis Presennol:
S. Matthew 7: CTB
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.