1
S. Matthew 7:7
Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)
CTB
Gofynwch, a rhoddir i chwi: ceisiwch, a chewch: curwch, ac agorir i chwi
Cymharu
Archwiliwch S. Matthew 7:7
2
S. Matthew 7:8
canys pob un y sy’n gofyn, sy’n derbyn; a’r neb sy’n ceisio, sy’n cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir.
Archwiliwch S. Matthew 7:8
3
S. Matthew 7:24
Pob un, gan hyny, y sy’n clywed y geiriau hyn mau Fi ac yn eu gwneuthur, cyffelyb fydd i ŵr doeth yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig
Archwiliwch S. Matthew 7:24
4
S. Matthew 7:12
Gan hyny, yr holl bethau, cymmaint ag a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau hefyd iddynt hwy; canys hyn yw’r Gyfraith a’r Prophwydi.
Archwiliwch S. Matthew 7:12
5
S. Matthew 7:14
canys cul yw’r porth, a chyfyng y ffordd sydd yn arwain i’r bywyd, ac ychydig yw y rhai yn ei chael hi.
Archwiliwch S. Matthew 7:14
6
S. Matthew 7:13
Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng; canys ehang yw’r porth, a llydan y ffordd sy’n arwain i’r distryw, a llawer yw y rhai yn myned i mewn trwyddi
Archwiliwch S. Matthew 7:13
7
S. Matthew 7:11
Os, gan hyny, chwychwi, a chwi yn ddrwg, a wyddoch pa sut i roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y gwna eich Tad y sydd yn y nefoedd, roddi pethau da i’r rhai sy’n gofyn Iddo?
Archwiliwch S. Matthew 7:11
8
S. Matthew 7:1-2
Na fernwch, fel na’ch barner; canys â’r farn â’r hon y bernwch, y’ch bernir; ac â’r mesur â’r hwn y mesurwch, y mesurir i chwi.
Archwiliwch S. Matthew 7:1-2
9
S. Matthew 7:26
A phob un y sy’n clywed y geiriau hyn mau Fi, ac nad yw yn eu gwneuthur, cyffelyb fydd i ŵr ynfyd, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod
Archwiliwch S. Matthew 7:26
10
S. Matthew 7:3-4
A phaham y gweli y brycheuyn y sydd yn llygad dy frawd, ond y trawst y sydd yn dy lygad dy hun nad ystyri? Neu, pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gâd i mi fwrw allan y brycheuyn o’th lygad, ac wele y trawst y sydd yn dy lygad di?
Archwiliwch S. Matthew 7:3-4
11
S. Matthew 7:15-16
Gwyliwch rhag y gau-brophwydi, y rhai a ddeuant attoch yngwisgoedd defaid, ond oddimewn y maent yn fleiddiaid rheibus: wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. Ai oddi ar ddrain y casglant rawnwin; neu oddi ar ysgall, ffigys?
Archwiliwch S. Matthew 7:15-16
12
S. Matthew 7:17
Felly pob pren da, ffrwythau da a ddwg efe; a’r pren llygredig, ffrwythau drwg a ddwg efe.
Archwiliwch S. Matthew 7:17
13
S. Matthew 7:18
Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren llygredig ddwyn ffrwythau da.
Archwiliwch S. Matthew 7:18
14
S. Matthew 7:19
Pob pren nad yw’n dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac i’r tân y’i teflir
Archwiliwch S. Matthew 7:19