Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Matthew 16

16
1Ac wedi dyfod Atto, y Pharisheaid a’r Tsadwceaid, gan Ei demtio, a ofynasant Iddo ddangos iddynt arwydd o’r nef. 2Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Yr hwyr wedi dyfod y dywedwch, Tywydd teg, canys coch yw’r nef; 3A’r bore, Heddyw drycin, canys coch a phruddaidd yw’r nef. Gwyneb y nef, y gwyddoch pa sut i’w farnu, ond arwyddion yr amserau ni fedrwch. 4Cenhedlaeth ddrwg a godinebus, arwydd a gais hi, ac arwydd ni roddir iddi, oddieithr arwydd Iona. A chan eu gadael hwynt, yr aeth Efe ymaith.
5A’r disgyblion a ddaethant i’r lan arall, ac anghofiasant gymmeryd bara; 6a’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymofalwch rhag surdoes y Pharisheaid a’r Tsadwceaid. 7A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Bara ni ddygasom. 8A’r Iesu, gan wybod hyn, a ddywedodd, Paham yr ymresymmwch yn eich plith eich hunain, y chwi o ychydig ffydd, am nad oes bara genych? 9Onid ydych etto yn deall, nac yn cofio pum torth y pum mil, a pha sawl basgedaid a gawsoch? 10na saith torth y pedair mil, a pha sawl cawellaid a gawsoch? 11Pa sut nad ydych yn deall nad am fara y dywedais wrthych, Ond “ymofalwch rhag surdoes y Pharisheaid a’r Tsadwceaid.” 12Yna yr amgyffredasant na ddywedasai iddynt ymofalu rhag surdoes bara, eithr rhag dysgad y Pharisheaid a’r Tsadwceaid.
13Ac wedi dyfod o’r Iesu i dueddau Cesarea Philippi, gofynodd i’w ddisgyblion, gan ddywedyd, Pwy y dywaid dynion fod Mab y Dyn? 14A hwy a ddywedasant, Rhai mai Ioan Fedyddiwr yw; ac eraill, Elias; ac eraill, Ieremiah neu un o’r prophwydi. 15Dywedodd wrthynt, Ond chwychwi, pwy y dywedwch Fy mod I? 16A chan atteb, Shimon Petr a ddywedodd, Tydi yw’r Crist, Mab y Duw byw. 17A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrtho, Dedwydd wyt, Shimon Bar-Iona, canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, eithr Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd. 18Ac yr wyf Finnau hefyd yn dywedyd wrthyt ti, Tydi wyt Petr, ac ar y graig hon yr adeiladaf Fy eglwys I; a phyrth Hades ni orchfygant hi. 19Rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear, fydd wedi ei rwymo yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ollyngech ar y ddaear, fydd wedi ei ollwng yn y nefoedd. 20Yna y gorchymynodd i’r disgyblion na ddywedent wrth neb mai Efe yw’r Crist.
21O hyny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i’w ddisgyblion fod yn rhaid Iddo fyned ymaith i Ierwshalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid a’r arch-offeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, ac ar y trydydd dydd gyfodi. 22Ac wedi Ei gymmeryd Ef atto, Petr a ddechreuodd Ei ddwrdio Ef, gan ddywedyd, Trugarog fydded Wrthyt, Arglwydd; ni fydd hyn, er dim i Ti. 23Ac Efe a drodd ac a ddywedodd wrth Petr, Dos yn Fy ol I, Satan: tramgwydd wyt i Mi, canys nid synied pethau Duw yr wyt, eithr pethau dynion. 24Yna yr Iesu a ddywedodd wrth Ei ddisgyblion, Os yw neb yn ewyllysio dyfod ar Fy ol I, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned Fi: 25canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a’i cyll; a phwy bynnag a gollo ei fywyd o’m plegid I, a’i caiff. 26Canys pa beth y lleseir dyn, os y byd oll a ennillodd efe, a’i fywyd wedi myned yn ddirwy iddo? Neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei fywyd? 27Canys y mae Mab y Dyn ar fedr dyfod yngogoniant Ei Dad ynghyda’i angylion; ac yna y tâl Efe i bob un yn ol ei weithred. 28Yn wir y dywedaf wrthych, Y mae rhai o’r sawl sy’n sefyll yma, y rhai nid archwaethant mo angau, nes gweled o honynt Fab y Dyn yn dyfod yn Ei deyrnas.

Dewis Presennol:

S. Matthew 16: CTB

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda