1
S. Matthew 16:24
Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)
CTB
Yna yr Iesu a ddywedodd wrth Ei ddisgyblion, Os yw neb yn ewyllysio dyfod ar Fy ol I, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned Fi
Cymharu
Archwiliwch S. Matthew 16:24
2
S. Matthew 16:18
Ac yr wyf Finnau hefyd yn dywedyd wrthyt ti, Tydi wyt Petr, ac ar y graig hon yr adeiladaf Fy eglwys I; a phyrth Hades ni orchfygant hi.
Archwiliwch S. Matthew 16:18
3
S. Matthew 16:19
Rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear, fydd wedi ei rwymo yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ollyngech ar y ddaear, fydd wedi ei ollwng yn y nefoedd.
Archwiliwch S. Matthew 16:19
4
S. Matthew 16:25
canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a’i cyll; a phwy bynnag a gollo ei fywyd o’m plegid I, a’i caiff.
Archwiliwch S. Matthew 16:25
5
S. Matthew 16:26
Canys pa beth y lleseir dyn, os y byd oll a ennillodd efe, a’i fywyd wedi myned yn ddirwy iddo? Neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei fywyd?
Archwiliwch S. Matthew 16:26
6
S. Matthew 16:15-16
Dywedodd wrthynt, Ond chwychwi, pwy y dywedwch Fy mod I? A chan atteb, Shimon Petr a ddywedodd, Tydi yw’r Crist, Mab y Duw byw.
Archwiliwch S. Matthew 16:15-16
7
S. Matthew 16:17
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrtho, Dedwydd wyt, Shimon Bar-Iona, canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, eithr Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd.
Archwiliwch S. Matthew 16:17