Eshaiah 29
29
XXIX.
1 # 29:1 Ierwshalem. # 29:1 Cyfeirir yn y bennod hon ac yn y bedair ganlynol at ddyfodiad Sennacherib (yr Assyriad) yn erbyn Ierwshalem, — at gyfyngder yr Iwddewon a darddai oddi wrth hyny, — at eu gwaredigaeth drwy law yr Arglwydd, — ac at eu cyflwr llwyddiannus gwedi ’n tan eu brenin Hezecïah. Cymmysgir â hyn oll ceryddon llymion a bygythion côsp am eu rhagrith, eu hanffyddlondeb, eu ffolineb, eu diffyg o ymddiried yn yr Arglwydd, a’u hymorphwys ar yr Aiphtiaid am achubiaeth. Rhoddir addewidion o amserau dedwyddach, y rhai a ddeuent mewn rhan yn ebrwydd, ac mewn rhan a fyddent i’w disgwyl mewn oesoedd diweddarach. Gwae Ariel, Ariel, y ddinas y gwersyllodd Dafydd (yn ei herbyn.)
Ychwanegwch flwyddyn ar flwyddyn: aed y gwŷliau oddi amgylch.
2 # 29:2 Cyfeirir (hyd 33.) at ddyfodiad Sennacherib, at gyfyngder yr Iwddewon, at eu gwaredigaeth trwy law Duw, at eu cyflwr llwyddiannus yn amser Hezecïah, yr oll yn gymmysgedig â bygythion am eu rhagrith a’u hymddiried yn yr Aipht. Etto Mi a gyfyngaf ar Ariel,
A bydd galar a griddfan,
A hi a fydd i Mi fel aelwyd yr allor fawr:
3A Mi a wersyllaf, fel Dafydd, yn dy erbyn,
Ac a warchaëaf i’th erbyn (mewn) gwarch-dŵr,
Ac a gyfodaf yn dy erbyn wrth-glawdd.
4A thi a iselir, ac o’r ddaear y lleferi,
Ac o’r llwch y gostyngi dy ymadrodd,
Ac 『2fel swynwr,』 『3o’r ddaear』 『1y bydd』 dy lais di,
Ac o’r llwch dy ymadrodd a hustyng.
5A bydd fel llwch mân dyrfa dy feilchion,
Ac fel peiswyn yn myned heibio (y bydd) tyrfa ’r rhai ofnadwy;
Ië, bydd yn ddisymmwth ddïattreg.
6Oddi wrth Iehofah y lluoedd yr ymwelir â thi
Trwy daranau, trwy ddaear-gryn, â llais mawr,
(Trwy) gorwỳnt, a thymmestl, a fflam dân ysol.
7Ac 『 2fel breuddwyd gweledigaeth nos』 『 1y bydd』
Tyrfa ’r holl genhedloedd ag (sy) ’n llueddu yn erbyn Ariel,
A’u holl finteioedd, a’u tyrau, a’r rhai a warchaëant arni.
8 # 29:8 siommedigaeth llu Sennacherib. Ië, bydd fel pan freuddwydio ’r newynog, ac wele ef yn fwytta,
Ond efe a ddeffry, a gwag yw ei enaid:
A fel pan freuddwydio ’r sychedig, ac wele ef yn yfed,
Ond efe a ddeffry, ac wele ef yn ddiffygiol, a’i enaid yn chwennych (diod):
Felly y bydd tyrfa ’r holl genhedloedd
Y rhai (sy) ’n llueddu yn erbyn mynydd Tsïon.
9Ymryfeddwch a rhyfeddwch,
Ymedrychwch ac edrychwch,
Byddwch feddw, ond heb win,
Honciwch, ond heb ddïod gadarn.
10Canys tywalltodd 2Iehofah 1arnoch yspryd trymgwsg,
A chauodd eich llygaid;
A’r prophwydi, a’ch pennaethiaid,
Y gweledyddion, a orchuddiodd Efe.
11Ac i chwi y bydd y weledigaeth oll fel geiriau llyfr seliedig
Yr hwn y rhoddant ef at un a fedr ar lyfr,
Gan ddywedyd, Darllen, attolwg, hwn,
Ac efe a ddywed, Ni allaf ei ddarllen, canys seliedig (yw) efe.
12A rhoddir y llyfr at yr hwn ni fedr ar lyfr,
Gan ddywedyd, Darllen, attolwg, hwn,
Ac efe a ddywed, Ni fedraf ar lyfr.
13A dywedodd Iehofah,
O herwydd nesâu o’r bobl hyn (attaf) â’u genau,
Ac â’u gwefusau Fy anrhydeddu,
Â’u calon ym mhell oddi wrthyf,
Ofer yw eu hofn o honof,
Gorchymmynion dynion (y maent) yn eu dysgu.
14Am hynny wele Fi yn ’chwanegu i wnaethur yn rhyfedd
A’r bobl hyn gyda rhyfeddawd a rhyfeddawd,
A difethir doethineb eu doethion hwynt,
A deall eu rhai deallgar hwynt a ymguddia.
15Gwae ’r rhai sy’n ddyfnach nag Iehofah i guddio cyngor,
Ac y mae yn y tywyllwch eu gweithredoedd,
Ac a ddywedant, Pwy a’n gwêl ni? a phwy a’n hedwyn?
16Eich gwrthnysigrwydd! Ai fel y clai y crochenydd a gyfrifir?
Fel y dywedo ’r gwaith am ei weithydd, Ni’m gwnaeth i,
Ac 『2y dywedo’r』『1peth a luniwyd』am ei luniwr, Nid yw ddeallus.
17Oni (fydd) etto ond ychydig bach
# 29:17 Diareb. Hyd oni thröir Lebanon yn Garmel,#29:17 Uchder Lebanon yw 9000 troed-fedd. Uchder Carmel yw 1200.
A Carmel yn goedwig a gyfrifir?
18A chlyw, yn y dydd hwnnw, y byddar eiriau ’r llyfr,
Ac allan o niwl dudew a thywyllwch llygaid y deillion a welant:
19A chwannega’r llariaidd 2lawenydd 『1yn Iehofah,』
A’r tlodion o ddynion yn Sanct Israel a ymhyfrydant.
20Canys darfu am yr ofnadwy, a difethwyd y gwatwarus,
A thorwyd ymaith y rhai oll a wyliasant er mwyn anwiredd,
21Y rhai a euog-farnasant ddyn drwy air,
Ac i’r hwn a geryddai yn y porth y gosodasant faglau,
Ac â 2choegni y camdroisant y cyfiawn.
22Am hynny fel hyn y dywed Iehofah wrth dŷ Iacob,
Yr Hwn a waredodd Abraham,
2Weithian 1ni chywilyddir Iacob,
Ac 2weithian 1ni 4lasâ 『3ei wyneb ef.』
23Canys pan welo ei feibion waith Fy nwylaw,
Ym mysg eu hunain y sancteiddiant Fy enw,
Sancteiddiant Sanct Iacob,
A rhag Duw Israel yr arswydant.
24A’r 『2cyfeiliornus o yspryd』 『1a wybydd』 ddeall,
A’r grwgnachwŷr a ddysgant addysg.
Dewis Presennol:
Eshaiah 29: CTB
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.