Eshaiah 28
28
XXVIII.
1 # 28:1 cyfeirir at ddyfodiad Shalmaneser yn erbyn Israel. Gwae goron balchder meddwon Ephraim,
A blodeuyn diflanedig ei ogoneddus harddwch,
Y rhai sydd ym mhen y dyffryn bras, wedi eu gorchfygu gan win.
2Wele ’r grymmus a nerthol neillduol,
Fel tymmestl cenllysg, (fel) corwỳnt dinystriol,
Fel tymmestl dyfroedd cedyrn yn llifo drosodd,
Efe a’u llonydda hwynt ar lawr â’i law.
3Dan draed y sethrir
Coronau balchder meddwon Ephraim.
4A bydd blodeuyn diflanedig ei ogoneddus harddwch,
Yr hwn sydd ym mhen y dyffryn bras,
Megis ffigysen gynnar cyn yr hâf,
Yr hon a wêl pwy bynnag a’i gwelo,
A hi yn awr yn ei law, efe a’i llwngc hi.
5 # 28:5 cyfeirir at Beniamin ac Iwdah. Yn y dydd hwnnw y bydd Iehofah y lluoedd yn goron ardderchowgrwydd,
Ac yn dalaith gogoniant, i weddill Ei bobl,
6Ac yn yspryd barn i’r hwn a eisteddo ar farn,
Ac yn gadernid i’r rhai a ddychwelant y rhyfel hyd at y porth.
7Ond hyd yn oed y rhai hyn trwy win a gyfeiliornasant, a thrwy ddïod gadarn a grwydrasant;
Offeiriad a phrophwyd a gyfeiliornasant drwy ddïod gadarn;
Gorchfygwyd hwy gan y gwin, crwydrasant drwy ’r ddiod gadarn,
Cyfeiliornasant mewn gwelediad, tramgwyddasant (mewn) barn.
8Canys yr holl fyrddau a lanwyd o chwydfa,
O fudreddi, heb le (glan).
9“I bwy” (meddant) “y dysg Efe wybodaeth? ac i bwy y pâr Efe ddeall gwers?
(Ai) i’r rhai a ddiddyfnwyd oddi wrth laeth, y rhai a dynnwyd oddi wrth y bronnau?
10Canys (y mae hi) yn orchymyn ar orchymyn, gorchymyn ar orchymyn,
Llin ar lin, llin ar lin,
Ychydig yma, ac ychydig accw.”
11 # 28:11 caethgludir chwi, ac fel plant y’ch dysgir gan eich gorthrymmwyr. Ië, â bloesgni gwefus, ac â thafodiaith ddieithr
Y llefara Efe wrth y bobl hyn.
12Pan ddywedodd Efe wrthynt,
Hwn yw’r gorphwysdra, rhoddwch orphwysdra i’r diffygiol,
A hon yw’r orphwysfa, ni fynnent wrando;
13Gan hynny iddynt hwy (y bydd) gair Iehofah
Yn orchymyn ar orchymyn, gorchymyn ar orchymyn,
Llin ar lin, llin ar lin,
Ychydig yma, ac ychydig accw,
Fel yr elont ac y syrthiont yn ol,
Ac y dryllier, ac y magler, ac y dalier hwynt.
14Am hynny gwrandêwch air Iehofah, ddynion gwatwarus,
Llefarwŷr diarebaidd ymhlith y bobl hyn y rhai (sydd) yn Ierwshalem,
15Am i chwi ddywedyd, Gwnaethom ammod âg angau,
Ac â’r bêdd y gwnaethom gyngrair;
Y ffrewyll lifeiriol, er iddi dramwyo, ni ddaw attom ni,
Canys gosodasom gelwydd yn noddfa i ni,
A than ffalsder y llechasom.
16Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Iehofah,
Wele Fi yn sylfaenu yn Tsïon faen, maen profedig,
Congl-faen, gwerthfawr, safadwy safadwy,
Yr hwn a gredo (ynddo) ni chywilyddir,
17A Mi a wnaf farn wrth linyn,
A chyfiawnder wrth blymen;
Ac fe ysguba cenllysg y noddfa o gelwydd;
A’r lloches, y dyfroedd a lifeiriant drosti.
18A diddymmir eich ammod âg angau,
A’ch cyngrair a’r bedd ni saif;
A’r ffrewyll lifeiriol, pan dramwyo hi,
Chwi a fyddwch iddi yn sathrfa;
19O’r amser y tramwyo, y cipia hi chwi,
Canys bore ar fore y tramwya, ddydd a nos;
Ac y bydd yn 2ddychryn 3glywed yn 1unig 『4ei swn hi;』
20Canys rhy fyrr yw’r gwely i ymestyn (ynddo),
A’r cwrlid rhy gul i ymdrôi ynddo;
21Canys megis ym mynydd Peratsim, y cyfyd Iehofah,
Megis yn nglyn Gibeon, y digia Efe,
I wnaethur Ei waith, Ei ddïeithr-waith,
Ac i weithredu Ei weithred, Ei anarferol weithred.
22Ac yn awr nac ymroddwch i watwar,
Rhag cadarnhâu o’ch ceryddon,
Canys dinystr a (hwnnw) yn benderfynedig a glywais
Oddi wrth Iehofah y lluoedd yn erbyn yr holl dir.
23Clywch a gwrandêwch fy llais,
Ystyriwch a gwrandêwch fy lleferydd.
24 # 28:24 Mae gan yr Arg. amrywiol foddion i drin Ei bobl, ac oll yn addas i’w bwrpas Ef. Ai pob dydd yr aredig yr arddwr er mwyn hau,
Ac yr agora, ac yr oga ei dir?
25Onid, wedi iddo lyfnhâu ei wyneb,
Y taena efe lysiau ’r bara, a’r cwmin a wasgar efe,
Ac a ddyd y gwenith mewn rhesi,
A’r haidd (mewn lle) nodedig, a’r rhŷg yn ei derfyn?
26Canys gan ei hyfforddio yn iawn ei Dduw a’i dysg ef.
27Canys nid âg ôg y dyrnir Hysiau ’r bara,
Nac olwyn menn ar gwmin a dröir;
Eithr â ffon y dyrnir llysiau ’r bara,
A chwmin â gwialen. Yd bara a ysigir (gan ychen).
28Ond nid am byth gan ddyrnu y dyrna efe ef,
Ac yr aflonydda olwyn ei fenn,
Nac â charnau ei (ychen) yr ysiga efe ef.
29A hyn oddi wrth Iehofah y lluoedd a ddaw,
Rhyfeddol yw mewn cyngor, ardderchog mewn gweithred.
Dewis Presennol:
Eshaiah 28: CTB
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.