2. Corinthieit 4
4
Pen. iiij.
Mae ef yn datcan ei ddiyscaelusrwydd ai dalgrynrwydd yn ei swydd. A’r hyn oedd ei ’elynion yn ei gymryd yn ðielw iddo, sef, y #4:0 ‡ groesgroc a’r travaelion yr ei y mae ef ei goðef, a droes ynteu yn ’elw mawr yddaw. Can ddangos pa vudd a ddaw o hyny.
Yr Epistol ar ddydd S. Matheu.
1AM hyny, can vot i ni y #4:1 ‡ gwasanaeth, swyddgweinidogeth hynn, megis y cawsam drugaredd, nyd ym ni yn #4:1 * deffigio, lleddfullaesu: 2eithr ymwrthot a wnaetham a gorchuddiau coegedd, ac nyd rhodiaw ydd ym yn #4:2 * callinep, dilechtithoccedus, ac nyd ym yn #4:2 ‡ ffalsau, siomi amcamdraethu gair Duw: eithr can eglurhau y gwirionedd ydd ym yn ymbrifio wrth cydwybot pop dyn yn‐golwc Duw. 3Ac ad yw ein Euangel yn guddiedic, ir ei a gyfergollwyt, y mae hi yn guddiedic. 4Ym‐pa ’rei #4:4 * sef SatanDuw y byt hwn a ddallawdd y meddyliae, ’sef ir anffyddlonion, rac towynnu yddynt #4:4 ‡ ’oleuni, ’oleuadllewyrch y gogoneddus Euangel Christ, rhwn yw delw Dduw. 5Can nad ym yn ymprecethu ein hunain, anyd Christ Iesu yr Arglwydd, a’ ninheu yn weision ywch er mwyn Iesu. 6Can ys Duw’rhwn a ’orchymynnawð ir golauni lewyrchu allan o dywyllwch yvv ef yr hwn a lewyrchawdd yn ein calonae, y roddi golauni’r gwybodaeth y gogoniant Duw yn wynep Iesu Christ. 7Eithr y tresawr hwn ’sy genym mewn llestri pridd, val y byddei arðerchowgrwyð y meðiant hwnw o Duw, ac nyd o hanō ni. 8Yð ys in gorthrymu o bop #4:8 ‡ tuparth, er hyny nyd ym mewn cyfyngder: ydd ym mewn #4:8 * tlodicyfing gyngor, er hyny nyd ym yn #4:8 * dlawd, anobaithðigyngor. 9Ydd ys yn ein ymlid, and ny’n gedir eb #4:9 ‡ ymgeleddnavvdd: ydd ym wedy ein tavlu y lawr, eithr ny’n collir. 10Ym pop lle ydd ym yn arwedd o y amgylch yn ein corph #4:10 * varwhadvarwoleth yr Arglwyð Iesu, val yr eglurer hefyt vywyt Iesu yn ein corphe. 11Can ys ny ni ’rei sydd yn vyw, a roðir yn wastat y angeu er mwyn Iesu, val yr eglurhaer hefyt vywyt Iesu yn ein marwol gnawd. 12Ac velly angeu a weithia ynam ni, a’ bywyt yno‐chwi. 13A chan vot i ni yr vn Yspryt ffyð, erwydd y mae yn scrifenedic, Credais, ac am hyny #4:13 ‡ yr adroddais, dywedaisy llavarais, ac ydd ym ninheu yn credu, ac am hynny #4:13 * yradroddwn, dywedwny llavarwn, 14can wybot y bydd y hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, eyn cyfodi ninheu hefyt trwy Iesu, ac a’n gosyd ni y gyd a chwi. 15Cā ys pop peth oll ys yd er eich mwyn chwi val yr amylhao yr helaethaf rat gan ddiolchiat llaweroedd er #4:15 ‡ moliantgogoniat y Dduw. 16Am hyny nyd ym ni yn #4:16 * deffygiaw, llipau, myscrelluymellwng, eithyr cyd llygrer ein dyn o ddyallan, er hyny y dyn o ddymewn a adnewyðir beunydd. 17O bleit yscavnder ein gorthrymder #4:17 ‡ trangedicrhwn ny phara ddim hayachen, a #4:17 * weithiabair y ni dra arðerchawc a’ thragyvythawl bwys o ogoniant, 18pryd nad edrychom ar y petheu hyn a welir, anyd ar y petheu, ny welir ddim hanynt: can ys y petheu a welir, ’sy #4:18 ‡ amseroldros amser: a’r petheu ny welir, ’sy tragyvythawl.
Dewis Presennol:
2. Corinthieit 4: SBY1567
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyhoeddwyd gyntaf yn 1567, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2016.