Y Salmau 138
138
SALM CXXXVIII
Confitemur tibi.
Dafydd yn canmol daioni Duw tuag atto ef, ac yn gweled drwy ei ffyrdd y cai efe gymaint daioni gan Dduw rhag llaw, ac o’r blaen.
1Rhof fawrglod iti, fy Nuw Ion,
o ddyfnder calon canaf:
Yngwydd holl Angylion y nef,
â’m hoslef i’th foliannaf.
2Ymgrymmaf tua’th sanctaidd dy,
dan ganu o’th drugaredd:
A’th enw mawr uwchlaw pob peth,
a’th air difeth wirionedd.
3Y dydd gelwais arnat ti,
gwrandewaist ti yn fuan:
Yno y nerthaist â chref blaid,
ef enaid i oedd egwan.
4Doed brenhinoedd y ddaiar hon,
a rhoen yt union foliant:
Addolent oll ein gwir-dduw ni,
cans d’eiriau di a glywsant.
5Yn ffyrdd yr Arglwydd yr un wedd,
ac am ei fowredd canant:
Gan ddangos drwy’r holl fyd ei fraint,
a maint yw ei ogoniant.
6Uchel yw’r Ion, etto fe wel
yr ufydd isel ddynion:
A gwyl o hirbell, er eu plau,
y beilch a’r gwarrau sythion.
7Pe bai yn gyfyng arna’r byd,
ti a’m bywheyd eilwaith:
Gan ystyn llaw i ddwyn dy wâs
oddiwrth rai atcas ymaith.
8Yr Arglwydd a gyflowna â mi,
Duw dy ddaioni rhag llaw,
Ac yn dragywydd imi dod:
na wrthod waith dy ddwylaw.
Dewis Presennol:
Y Salmau 138: SC
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017