Y Salmau 137
137
SALM CXXXVII
Super flumina.
Yr Israeliaid yn eu caethiwed (wrth glywed y Caldeaid yn cablu Duw) sydd yn dymuno ar Dduw gosbi yr Edomiaid, y rhai a barasent i wyr Babel greuloni wrthynt: a prophwydoliaeth am ddinistr Babel.
1Pan oeddym gaeth yn Babilon,
ar lan prif afon groyw,
Mewn coffadwriaeth am Seion,
hidlason ddagrau’n loyw.
2Rhoddasom ein telynau’n ’nghrog,
ar goed canghennog irion.
Lle yr oedd preniau helyg plan,
o ddeutu glann yr afon.
3Y rhai a’n dug i garchar caeth,
ini yn ffraeth gofynnen:
A ni’n bruddion, gerdd i Seion,
sywaeth peth nis gallen:
4O Dduw pa fodd y canai neb,
(rhoem atteb yn ystyriol)
I chwi o gerdd ein Harglwydd Dâd,
a ni mewn gwlad estronol?
5Os â Chaersalem o’r cof mau,
anghofied dehau gany:
6Na throed fy nhafod, oni bydd,
hi’n ben llawenydd ymy.
7Cofia di Dduw, blant Edom lemm,
yn nydd Caersalem howddgar.
Noethwch dynoethwch (meddei rhai’n)
ei mur a’i main i’r ddaiar.
8Bydd gwyn eu byd i’r sawl a wnel
iti merch Babel rydost,
Yr unrhyw fesur, gan dy blau,
i minnau fel y gwnaethost.
9Y sawl a gymro dy blant di,
bo’r rhei’ni fendigedig,
Ac a darawo’r eppil tan,
a’i pennau wrth y cerrig.
Dewis Presennol:
Y Salmau 137: SC
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017