Y Salmau 100
100
SALM C
Jubilate Deo.
Mae yn cynghori pob dyn i wasanaethu yr Arglwydd, ac i fyned iw gynnulleidfa i’w foli.
1I’r Arglwydd cenwch lafar glod,
a gwnewch ufydd-dod llawen fryd,
2Dowch o flaen Duw a pheraidd don,
trigolion y ddaear i gyd.
3Gwybyddwch mai’r Arglwydd sydd Dduw,
a’n gwnaeth ni’n fyw fel hyn i fod,
Nid ni’n hunain, ei bobl ym ni,
a defaid rhi’ ei borfa a’i nod.
4O ewch i’w byrth a diolch brau,
yn ei gynteddau molwch ef,
Bendithiwch enw Duw hynod,
rhowch iddo glod drwy lafar lef.
5Cans da yw’r Arglwydd, awdur hedd,
da ei drugaredd a di lyth:
A’i wirionedd ini a roes,
o oes, i oes, a bery byth.
Dewis Presennol:
Y Salmau 100: SC
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017