Mathew 7:3-4 - Compare All Versions
Mathew 7:3-4 BNET (beibl.net 2015, 2024)
“Pam wyt ti’n poeni am y sbecyn o flawd llif sydd yn llygad rhywun arall, pan mae trawst o bren yn sticio allan o dy lygad dy hun!? Sut alli di ddweud, ‘Gad i mi dynnu’r sbecyn yna allan o dy lygad di,’ pan mae trawst yn sticio allan o dy lygad dy hun?
Rhanna
Mathew 7 BNETMathew 7:3-4 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pam yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill, a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun? Neu sut y dywedi wrth dy gyfaill, ‘Gad imi dynnu allan y brycheuyn o'th lygad di’, a dyna drawst yn dy lygad dy hun?
Rhanna
Mathew 7 BCNDMathew 7:3-4 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gad imi fwrw allan y brycheuyn o’th lygad; ac wele drawst yn dy lygad dy hun?
Rhanna
Mathew 7 BWM