Salm 92
92
Salm neu Gân ar y dydd Saboth.
1Da yw mol/iannu · yr / Arglwydd :
a chanu mawl i’th / enw / di · y Go/ruchaf :
2A mynegi y bore / am dy · dru/garedd :
a’th wir/ionedd / y nos/weithiau;
3Ar ddectant ac / ar y / nabl :
ac ar y / delyn / yn fy/fyriol.
4Canys llawenychaist fi O / Arglwydd · â’th / weithred :
yng ngwaith dy / ddwylo · y / gorfo/leddaf.
5Mor fawredig O Arglwydd / yw dy · weith/redoedd :
dwfn / iawn yw / dy fe/ddyliau.
6Gŵr / annoeth · ni / ŵyr :
a’r / ynfyd · ni / ddeall / hyn.
7Pan flodeuo y rhai annuwiol fel y llysieuyn * a blaguro holl weith/redwyr · an/wiredd :
hynny sydd i’w di/nistrio / byth / bythoedd.
8Tithau / Ar/glwydd :
wyt ddyrcha/fedig / yn dra/gywydd.
9Canys wele, dy elynion O Arglwydd * wele dy elynion / a ddi/fethir :
gwasgerir / holl weith/redwyr · an/wiredd.
10Ond fy nghorn i a ddyr/chefi · fel / unicorn :
ag / olew / ir · y’m he/neinir.
† 11Fy llygad hefyd a wêl fy ngwynfyd ar fy / ngwrthwy/nebwyr :
fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai dryg/ionus · a gy/fodant · i’m / herbyn.
12Y cyfiawn a flodeua / fel palm/wydden :
ac a gynydda fel / cedr/wydden · yn / Libanus.
13Y rhai a blannwyd yn / nhŷ yr / Arglwydd :
a flodeuant / yng nghyn/teddoedd · ein / Duw.
14Ffrwythant eto / yn eu / henaint :
tirfion / ac / iraidd / fyddant :
15I fynegi mai uniawn yw yr / Arglwydd · fy / nghraig :
ac nad / oes an/wiredd / ynddo.
Currently Selected:
Salm 92: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984