Salm 9
9
I’r Pencerdd ar Muth-labben, Salm Dafydd.
1Clodforaf di, O Arglwydd, â’m / holl / galon :
mynegaf dy / holl / ryfe/ddodau.
2Llawenychaf a gorfo/leddaf / ynot :
canaf i’th / enw / di · y Go/ruchaf.
3Pan ddychweler fy ngelynion / yn eu / hôl :
hwy a gwympant ac a ddi/fethir · o’th / flaen / di.
4Canys gwnaethost fy marn a’m / mater · yn / dda :
eisteddaist ar or/seddfainc · gan / farnu · yn / gyfiawn.
5Ceryddaist y cenhedloedd * distrywiaist / yr an/nuwiol :
eu henw hwynt a ddi/leaist / byth / bythol.
6Ha elyn * darfu am / ddinistr · yn dra/gywydd :
a diwreiddiaist y dinasoedd * darfu eu / coffa/dwriaeth / gyda hwynt.
7Ond yr Arglwydd a / bery yn · dra/gywydd :
efe a bara/tôdd · ei or/seddfainc · i / farn.
8Ac efe a farn y / byd · mewn cyf/iawnder :
efe a farn y / bobloedd / mewn un/iondeb.
9Yr Arglwydd hefyd fydd noddfa i’r / gorthry/medig :
nodd/fa yn / amser / trallod.
10A’r rhai a adwaenant dy enw a ymddir/iedant / ynot :
canys ni adewaist O / Arglwydd · y / rhai a’th / geisient.
11Canmolwch yr Arglwydd * yr hwn sydd yn pre/swylio · yn / Seion :
mynegwch ymysg y bobloedd / ei weith/redoedd / ef.
12Pan ymofynno efe am waed * efe a’u / cofia / hwynt :
nid ang/hofia / waedd · y cys/tuddiol.
13Trugar/ha · wrthyf / Arglwydd :
gwêl fy mlinder gan fy nghaseion * fy nyr/chafydd / o byrth / angau :
14Fel y mynegwyf dy holl foliant ym / mhyrth merch / Seion :
llawenychaf / yn dy / iachaw/dwriaeth.
15Y cenhedloedd a soddasant yn y / ffos a / wnaethant :
yn y rhwyd a guddiasant y / daliwyd · eu / troed eu / hun.
16Adwaenir yr Arglwydd wrth y / farn a / wna :
yr annuwiol a faglwyd yng ngweith/redoedd · ei / ddwylo · ei / hun.
17Y rhai drygionus a ym/chwelant · i / uffern :
a’r holl gen/hedloedd · a ang/hofiant / Dduw.
18Canys nid anghofir y / tlawd / byth :
gobaith y tru/einiaid · ni / chollir / byth.
19Cyfod, Arglwydd : na or/fydded / dyn :
barner y cen/hedloedd / ger dy / fron di.
20Gosod, Arglwydd, / ofn / arnynt :
fel y gwybyddo y cen/hedloedd · mai / dynion / ydynt.
Currently Selected:
Salm 9: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984