Salm 71
71
1Ynot ti, O Arglwydd / y go/beithiais :
na’m / cywi/lyddier / byth.
2Achub fi a gwared fi / yn dy · gyf / iawnder :
gostwng dy glust / ataf · ac / achub / fi.
3Bydd i mi yn drigfa gadarn * i ddyfod / iddi · bob / amser :
gorchmynnaist fy achub * canys ti yw fy / nghraig a’m / hamddi/ffynfa.
4Gwared fi O fy Nuw o / law yr · an/nuwiol :
o / law yr · ang/hyfiawn · a’r / traws.
5Canys ti yw fy ngobaith O / Arglwydd / Dduw :
fy ym/ddiried / o’m hieu/enctid.
6Wrthyt ti y’m cyn/haliwyd · o’r / bru :
ti a’m tynnaist o groth fy mam * fy mawl fydd yn / wastad ·
am/danat / ti.
7Oeddwn i lawer / megis · yn rhy/feddod :
eithr / tydi · yw fy / nghadarn / noddfa.
8Llanwer fy / ngenau · â’th / foliant :
ac / â’th o/goniant / beunydd.
9Na fwrw fi ymaith yn / amser / henaint :
na wrthod / fi pan / ballo · fy / nerth.
10Canys fy ngelynion sydd yn dy/wedyd · i’m / herbyn :
a’r rhai a ddisgwyliant am fy / enaid · a / gyd · ymgyng/horant,
11Gan ddywedyd / Duw · a’i gwr/thododd ef :
erlidiwch a deliwch ef / canys · nid / oes gwa/redydd.
12O Dduw na fydd / bell · oddi / wrthyf :
fy / Nuw / brysia · i’m / cymorth.
13Cywilyddier a difether y rhai a wrthwy/nebant · fy / enaid :
â gwarth ac â gwaradwydd * y gorchuddier y rhai a / geisiant / ddrwg i / mi.
14Minnau a o/beithiaf · yn / wastad :
ac / a’th fol/iannaf · di / fwyfwy.
15Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder a’th iachaw/dwriaeth / beunydd :
canys ni / wn ri/fedi / arnynt.
16Yng nghadernid yr Arglwydd / Dduw y / cerddaf :
dy gyfiawnder di yn / unig · a / gofiaf / fi.
17O’m hieuenctid y’m / dysgaist · O / Dduw :
hyd yn hyn y my/negais · dy ryfe/ddodau.
18Na wrthod fi chwaith O Dduw * mewn / henaint · a phen-/llwydni :
hyd oni fynegwyf dy nerth i’r genhedlaeth hon * a’th gadernid i / bob / un a / ddelo.
19Dy gyfiawnder hefyd O Dduw sydd uchel * yr hwn a wnaethost / bethau / mawrion :
pwy O / Dduw / sydd / debyg · i / ti?
20Ti yr hwn a wnaethost i mi weled aml a / blin gys/tuddiau : a’m bywhei drachefn * ac a’m cyfodi dra/chefn · o or/ddyfnder · y / ddaear.
21Aml/hei fy / mawredd :
ac a’m cy/suri / oddi / amgylch.
22Minnau a’th foliannaf ar offeryn nabl * sef dy wirionedd / O fy / Nuw :
canaf i ti â’r delyn / O / Sanct / Israel.
23Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan / ganwyf · i / ti :
a’m / henaid · yr / hwn a · wa/redaist.
24Fy nhafod hefyd a draetha dy gyf/iawnder / beunydd :
oherwydd cywilyddiwyd a gwaradwyddwyd y rhai a / geisiant / niwed · i / mi.
Currently Selected:
Salm 71: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984