Salm 65
65
I’r Pencerdd, Salm a Chân Dafydd.
1Mawl a’th erys di yn / Seion · O / Dduw :
ac i ti y / telir / yr a/dduned.
2Ti yr hwn a wran/dewi / weddi :
atat / ti y / daw pob / cnawd.
3Pethau anwir a’m / gorchfy/gasant :
ein camweddau ni / ti / a’u glan/hei.
4Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech * ac a nesaech atat * fel y trigo yn / dy gyn/teddoedd :
nyni a ddigonir â daioni dy dŷ / sef dy / deml / sanctaidd.
5Atebi i ni trwy bethau ofnadwy, yn dy gyfiawnder * O Dduw ein / hiachaw/dwriaeth :
gobaith holl gyrrau y ddaear * a’r rhai sydd / bell / ar y / môr.
6Yr hwn a sicrha y mynyddoedd / trwy ei / nerth :
ac a wre/gysir / â cha/dernid.
7Yr hwn a ostega / dwrf y / moroedd :
twrf eu / tonnau · a / therfysg · y / bobloedd.
8A phreswylwyr eithafoedd y byd a / ofnant ∙ dy ar/wyddion :
gwnei i derfyn / bore ∙ a / hwyr ∙ lawe/nychu.
9Yr wyt yn ymweled â’r ddaear ac yn ei dyfrhau hi * yr ydwyt
yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon Duw * yr hon sydd yn / llawn / dwfr :
yr wyt yn paratoi ŷd iddynt pan ddar/peraist / felly / iddi.
10Gan ddyfrhau ei chefnau a / gostwng ∙ ei / rhychau :
yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau * ac yn ben/dithio ∙ ei / chnwd / hi.
11Coroni yr ydwyt y / flwyddyn ∙ â’th dda/ioni :
a’th / lwybrau ∙ a ddi/ferant / fraster.
12Diferant ar bor/feydd ∙ yr an/ialwch :
a’r bryniau a ymwre/gysant / â hyf/rydwch.
† 13Y dolydd a wisgir â defaid * a’r dyffrynnoedd a or/chuddir ag / ŷd :
am hynny y / bloeddiant / ac y / canant.
Currently Selected:
Salm 65: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984