Salm 62
62
I’r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Dafydd.
1Wrth Dduw yn unig y / disgwyl · fy / enaid :
ohono ef y / daw fy / iachaw/dwriaeth.
2Efe yn unig yw fy nghraig a’m / hiachaw/dwriaeth :
a’m ham/ddiffyn, : ni’m / mawr ys/gogir.
3Pa hyd y bwriedwch aflwydd yn / erbyn / gŵr? :
lleddir chwi oll * a byddwch fel magwyr ogwyddedig neu / bared / ar ei / ogwydd.
4Ymgyngorasant yn unig i’w fwrw ef i lawr o’i fawredd * ho/ffasant / gelwydd :
â’u geneuau y bendithiant * ond o’u / mewn / y mell/tithiant.
5O fy enaid disgwyl wrth / Dduw yn / unig :
canys ynddo / ef y / mae fy / ngobaith.
6Efe yn unig yw fy nghraig a’m / hiachaw/dwriaeth :
efe yw fy amddi/ffynfa, / ni’m hys/gogir.
7Yn Nuw y mae fy iachaw/dwriaeth · a’m go/goniant :
craig fy nghadernid, a’m / noddfa / sydd yn / Nuw.
8Gobeithiwch ynddo ef bob amser O bobl * tywelltwch eich calon / ger ei / fron ef :
Duw / sydd / noddfa · i / ni.
9Gwagedd yn ddiau yw meibion dynion * geudeb yw / meibion / gwŷr :
i’w gosod yn y clorian * ysgafnach ydynt / hwy i / gyd na / gwegi.
10Nac ymddiriedwch mewn trawster * ac mewn trais na / fyddwch / ofer :
os cynydda golud * na / roddwch · eich / calon / arno.
11Unwaith y dywedodd Duw * clywais / hynny / ddwywaith :
mai / eiddo / Duw · yw ca/dernid.
12Trugaredd hefyd sydd eiddot / ti · O / Arglwydd :
canys ti a deli i bob / dyn yn / ôl ei / weithred.
Currently Selected:
Salm 62: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984