Salm 50
50
Salm Asaff.
1Duw y duwiau sef yr Arglwydd / a le/farodd :
ac a alwodd y ddaear o godiad / haul / hyd ei · fach/ludiad.
2Allan o Seion per/ffeithrwydd / tegwch :
y lle/wyr/chodd / Duw.
3Ein Duw ni a ddaw ac / ni bydd / distaw :
tân a ysa o’i flaen ef * a thymestl / ddirfawr / fydd o’i / amgylch.
4Geilw ar y nefoedd / oddi / uchod :
ac ar y / ddaear · i / farnu · ei / bobl.
5Cesglwch fy saint ynghyd / ataf / fi :
y rhai a wnaethant gy/famod · â · mi trwy / aberth.
6A’r nefoedd a fynegant ei gyf/iawnder / ef :
canys / Duw ei / hun sydd / Farnwr.
7Clywch, fy mhobl a mi a lefaraf O Israel * a mi a dystio-/laethaf · i’th / erbyn :
Duw sef dy / Dduw di / ydwyf / fi.
8Nid am dy aberthau y’th geryddaf na’th / boethoff/rymau :
am nad oeddynt / ger fy / mron i · yn / wastad.
9Ni chymeraf / fustach · o’th / dŷ : na / bychod / o’th gor/lannau.
10Canys holl fwystfilod y coed ydynt / eiddof / fi :
a’r ani/feiliaid · ar / fil · o fy/nyddoedd.
11Adwaen holl / adar · y my/nyddoedd :
a gwyllt anifeiliaid y / maes · ydynt / eiddof / fi.
12Os bydd newyn arnaf ni ddy/wedaf · i / ti :
canys y byd a’i gyf/lawnder · sydd / eiddof / fi.
13A fwytâf / fi gig / teirw? :
neu a / yfaf · fi / waed / bychod?
14Abertha / foliant · i / Dduw :
a thâl i’r Go/ruchaf · dy / addu/ nedau :
15A galw arnaf fi yn / nydd / trallod :
mi a’th waredaf a / thi a’m / gogo/neddi.
16Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw * Beth sydd i ti a fynegech / ar fy / neddfau :
neu a gymerech ar fy nghy/famod / yn dy / enau?
17Gan dy fod yn ca/sáu / addysg :
ac yn / taflu · fy / ngeiriau · i’th / ôl.
18Pan welaist leidr cy/tunaist · ag / ef :
a’th gyfran oedd / gyda’r / godi/nebwyr.
19Gollyngaist dy / safn · i ddryg/ioni :
a’th / dafod · a gyd/bletha / ddichell.
20Eisteddaist a dywedaist yn / erbyn · dy / frawd :
rhoddaist / enllib · i / fab dy / fam.
21Hyn a wnaethost a mi a dewais * tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel / ti dy / hun :
ond mi a’th argyhoeddaf ac a’u / trefnaf · o / flaen dy / lygaid.
22Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn ang/hofio / Duw :
rhag i mi eich rhwygo / ac na / byddo · gwa/redydd.
† 23Yr hwn a abertho foliant a’m gogo/nedda / i :
a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn * dangosaf iddo / iachaw-/dwriaeth / Duw.
Currently Selected:
Salm 50: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984