Salm 39
39
Salm Dafydd i’r Pencerdd, sef i Jedwthwn.
1Dywedais, Cadwaf fy ffyrdd rhag / pechu · â’m / tafod :
cadwaf ffrwyn yn fy ngenau * tra fyddo yr an/nuwiol / yn fy / ngolwg.
2Tewais yn ddistaw * ie / tewais · â da/ioni :
a’m / dolur / a gyff/rôdd.
3Gwresogodd fy / nghalon · o’m / mewn :
tra yr oeddwn yn myfyrio * enynnodd tân a / mi a · le/ferais · â’m / tafod.
4Arglwydd, pâr i mi wybod fy niwedd * a pheth yw / mesur · fy / nyddiau :
fel y gwypwyf o ba / oedran · y / byddaf / fi.
5Wele, gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd *
a’m heinioes sydd megis diddim yn dy / olwg / di :
diau mai cwbl wagedd yw pob dyn / pan fo / ar y / gorau.
6Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cysgod * ac yn ymdra-/fferthu · yn / ofer :
efe a dyrra olud ac / nis gŵyr / pwy a’i / casgl.
7Ac yn awr beth a ddis/gwyliaf · O / Arglwydd? :
fy / ngobaith · sydd / ynot / ti.
8Gwared fi o’m / holl gam/weddau :
ac na osod fi yn wa/radwydd / i’r / ynfyd.
9Euthum yn fud ac nid / agorais · fy / ngenau :
canys / ti a / wnaethost / hyn.
10Tyn dy / bla · oddi / wrthyf :
gan ddyrnod dy / law · y dar/fûm / i.
11Pan gosbit ddyn â cheryddon am anwiredd * datodit fel gwyfyn ei ardder/chowgrwydd / ef :
gwagedd yn / ddiau / yw pob / dyn.
12Gwrando fy ngweddi Arglwydd, a chlyw fy llef * na thaw wrth / fy wy/lofain :
canys ymdeithydd ydwyf gyda thi * ac alltud / fel fy / holl / dadau.
† 13Paid â mi / fel y cryf/hawyf :
cyn fy / myned · ac na / byddwyf / mwy.
Currently Selected:
Salm 39: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984