YouVersion Logo
Search Icon

Salm 36

36
I’r Pencerdd, Salm Dafydd gwas yr Arglwydd.
1Y mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o / fewn fy / nghalon :
nad oes ofn Duw o / flaen ei / lygaid / ef.
2Oherwydd ymwenieithio y mae efe iddo ei hun yn ei / olwg · ei hunan :
nes / cael · ei an/wiredd · yn / atgas.
3Geiriau ei enau ydynt an/wiredd · a / thwyll :
peidiodd â bod yn / gall i / wneuthur · da/ioni.
4Anwiredd a ddychymyg efe ar ei wely * efe a’i gesyd ei hun ar / ffordd · nid yw / dda :
nid / ffiaidd / ganddo · ddryg/ioni.
5Dy drugaredd Arglwydd sydd / hyd y / nefoedd :
a’th wir/ionedd / hyd y · cy/mylau.
6Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder * dyfnder mawr yw dy / farne · di/gaethau :
dyn ac a/nifail · a / gedwi · di / Arglwydd.
7Mor werthfawr yw dy dru/garedd · O / Dduw! :
am hynny yr ymddiried meibion / dynion · dan / gysgod · dy a/denydd.
8Llawn ddigonir hwynt â / braster · dy / dŷ :
ac ag afon dy hy/frydwch · y di/odi / hwynt.
9Canys gyda thi y mae / ffynnon · y / bywyd :
yn dy oleuni / di y / gwelwn · o/leuni.
10Estyn dy drugaredd i’r / rhai a’th · ad/waenant :
a’th gyfiawnder i’r / rhai / uniawn · o / galon.
11Na ddeued troed / balchder · i’m / herbyn :
na syfled / llaw yr · an/nuwiol / fi.
12Yno y syrthiodd / gweithwyr · an/wiredd :
gwthiwyd hwynt i lawr / ac ni / allant · gy/fodi.

Currently Selected:

Salm 36: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in