YouVersion Logo
Search Icon

Salm 19

19
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Y Nefoedd sydd yn datgan go/goniant / Duw :
a’r ffurfafen sydd yn mynegi / gwaith ei / ddwylo / ef.
2Dydd i ddydd a / draetha · y/madrodd :
a nos i / nos a / ddengys · wy/bodaeth.
3Nid oes iaith / nac y/madrodd :
lle ni chly/buwyd · eu lle/ferydd / hwynt.
4Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear * a’u geiriau hyd ei-/thafoedd / byd :
i’r haul y gosododd e/fe / babell / ynddynt;
5Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan / o’i ys/tafell :
ac a ymlawenha fel / cawr i / redeg / gyrfa.
6O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan * a’i amgylchiad hyd eu hei/thafoedd / hwynt :
ac nid ymgudd / dim · oddi / wrth ei / wres ef.
7Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn / troi yr / enaid :
tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr * ac yn / gwneuthur · y / gwirion · yn / ddoeth.
8Deddfau yr Arglwydd sydd uniawn, yn llawen/hau y / galon :
gorchymyn yr Arglwydd sydd / bur · yn go/leuo · y / llygaid.
9Ofn yr Arglwydd sydd lân, yn par/hau yn · dra/gywydd :
barnau yr Arglwydd ydynt wirionedd, / cyfiawn / ydynt · i / gyd.
10Mwy dymunol ŷnt nag aur * ie, nag / aur coeth / lawer :
melysach hefyd na’r mêl * ac na di/feriad / diliau / mêl.
11Ynddynt hwy hefyd y rhy/buddir · dy / was :
o’u / cadw · y mae / gwobr / lawer.
12Pwy a ddeall / ei gam/weddau? :
glanha fi oddi / wrth fy / meiau · cudd/iedig.
13Atal hefyd dy was oddi wrth bechodau rhyfygus * na arglwydd/iaethont / arnaf :
yna y’m perffeithir ac y’m glanheir oddi / wrth an/wiredd / lawer.
14Bydded ymadroddion fy ngenau a myfyrdod fy nghalon * yn gymeradwy / ger dy / fron :
O / Arglwydd · fy / nghraig a’m / prynwr.

Currently Selected:

Salm 19: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in