Salm 149
149
1Molwch yr Arglwydd * Cenwch i’r Arglwydd / ganiad / newydd :
a’i foliant ef yng / nghynu/lleidfa · y / saint.
2Llawenhaed Israel yn yr / hwn a’i / gwnaeth :
gorfoledded meibion / Seion / yn eu / Brenin.
3Molant ei enw ef / ar y / dawns :
canant / iddo · ar / dympan · a / thelyn.
4Oherwydd hoffodd yr / Arglwydd · ei / bobl :
efe a brydfertha y rhai / llednais · â / iachaw/dwriaeth.
5Gorfoledded y saint / mewn go/goniant :
a / chanant / ar eu · gwe/lyau.
6Bydded ardderchog foliant Duw / yn eu / genau :
a chleddyf dau/finiog / yn eu / dwylo :
7I wneuthur dial / ar y · cen/hedloedd :
a / chosb / ar y / bobloedd;
8I rwymo eu brenhinoedd / â cha/dwynau :
a’u pendefigion / â ge/fynnau / heyrn;
† 9I wneuthur arnynt y / farn · ysgrife/nedig :
yr ardderchowgrwydd hwn sydd i’w holl saint ef * / Mo/lwch yr / Arglwydd.
Currently Selected:
Salm 149: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984