Salm 144
144
Salm Dafydd.
1Bendigedig fyddo yr / Arglwydd · fy / nerth :
yr hwn sydd yn dysgu fy nwylo i / ymladd · a’m / bysedd · i ry/fela.
2Fy nhrugaredd a’m hamddiffynfa * fy nhŵr a’m gwaredydd * fy nharian yw efe ac / ynddo · y go/beithiais :
yr hwn sydd yn da/rostwng · fy / mhobl / danaf.
3Arglwydd beth yw dyn pan gydna/byddit / ef? :
neu fab dyn pan / wneit / gyfrif · o/hono?
4Dyn sydd / debyg · i / wagedd :
ei ddyddiau sydd fel / cysgod · yn / myned / heibio.
5Arglwydd gostwng dy / nefoedd · a / disgyn :
cyffwrdd / â’r my/nyddoedd · a / mygant.
6Saetha fellt a / gwasgar / hwynt :
ergydia dy / saethau · a / difa / hwynt.
7Anfon dy / law · oddi / uchod :
achub a gwared fi o ddyfroedd mawrion * o / law / plant / estron;
8Y rhai y llefara eu / genau / wagedd :
y mae eu de/heulaw · yn dde/heulaw / ffalster.
9Canaf i ti O Dduw / ganiad / newydd :
ar y nabl a’r / dectant · y / canaf · i / ti.
10Efe sydd yn rhoddi iachawdwriaeth / i fren/hinoedd :
yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei was oddi /wrth y / cleddyf · ni/weidiol.
11Achub fi a gwared fi o law / meibion / estron :
y rhai y llefara eu genau wagedd * ac y mae eu de/heulaw · yn dde/heulaw / ffalster :
12Fel y byddo ein meibion fel planwydd yn tyfu / yn eu · hieu/enctid :
a’n merched fel congl faen nadd * wrth / gyffe/lybrwydd / palas;
13Fel y byddo ein celloedd yn llawn * yn trefnu / pob rhyw / luniaeth :
a’n defaid yn dwyn miloedd a / myrddiwn / yn ein · he/olydd;
14A’n hychen yn gryfion i lafurio * heb na rhuthro i mewn na / myned / allan :
na / gwaedd yn / ein he/olydd.
15Gwyn eu byd y bobl y mae / felly / iddynt :
gwyn eu byd y bobl y mae yr / Arglwydd · yn / Dduw / iddynt.
Currently Selected:
Salm 144: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984