Bible App logo
Search Icon

Salm 140

140
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Gwared fi O Arglwydd oddi / wrth y · dyn / drwg :
cadw fi / rhag y / gŵr / traws :
2Y rhai sydd yn bwriadu dryg/ioni · yn eu / calon :
ym/gasglant / beunydd · i / ryfel.
3Golymasant eu ta/fodau · fel / sarff :
gwenwyn / asb sydd / dan eu · gwe/fusau.
4Cadw fi O Arglwydd rhag / dwylo’r · an/nuwiol :
cadw fi rhag y gŵr traws * y rhai a fwria/dasant · fa/chellu · fy / nhraed.
5Y beilchion a guddiasant faglau i mi * ac a estynasant rwyd wrth dannau ar / ymyl · y / llwybrau :
gosodasant hoe/nynnau / ar fy / medr.
6Dywedais wrth yr Arglwydd * Fy / Nuw · ydwyt / ti :
clyw O Arglwydd / lef / fy ngwe/ddïau.
7Arglwydd Dduw nerth fy / iachaw/dwriaeth :
gorchuddiaist fy / mhen yn / nydd / brwydr.
8Na chaniatâ Arglwydd ddy/muniad · yr an/nuwiol :
na lwydda ei ddrwg feddwl / rhag eu · bal/chïo / hwynt.
9Y pennaf o’r rhai a’m / hamgyl/chyno :
blinder eu gwe/fusau / a’u gor/chuddio.
10Syrthied marwor arnynt a / bwrier · hwynt yn / tân :
ac mewn ceu/ffosydd / fel na · chy/fodant.
11Na sicrhaer dyn siaradus / ar y / ddaear :
drwg a hela y / gŵr / traws i’w / ddistryw.
12Gwn y dadlau yr Arglwydd / ddadl y / truan,:
ac y / barna · e/ fe y / tlodion.
13Y cyfiawn yn ddiau a glod/forant · dy / enw di :
y rhai uniawn a / drigant / ger dy / fron di.

Currently Selected:

Salm 140: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in