Salm 135
135
1Molwch yr Arglwydd * Molwch / enw yr / Arglwydd :
gweision yr / Arglwydd / molwch / ef.
2Y rhai ydych yn sefyll yn / nhŷ yr / Arglwydd :
yng nghynteddoedd / tŷ ein / Duw / ni.
3Molwch yr Arglwydd * canys / da · yw yr / Arglwydd :
cenwch i’w enw / canys / hyfryd / yw.
4Oblegid yr Arglwydd a ddetholodd Jacob / iddo · ei / hun :
ac Israel / yn brio/doriaeth / iddo.
5Canys mi a wn mai / mawr · yw yr / Arglwydd :
a bod ein Harglwydd ni go/ruwch yr / holl / dduwiau.
6Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn oll a fynnai yn y nefoedd ac / yn y / ddaear :
yn y môr / ac yn / yr holl ddyfn/derau.
7Y mae yn codi tarth o eithafoedd y ddaear * mellt a wnaeth efe yng/hyd â’r / glaw :
gan ddwyn y / gwynt / allan · o’i dry/sorau.
8Yr hwn a drawodd gyntaf-a/nedig · yr / Aifft :
yn / ddyn ac / yn a/nifail.
9Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i’th / ganol di · yr / Aifft :
ar Pharo ac / ar ei / holl / weision.
10Yr hwn a drawodd gen/hedloedd / lawer :
ac a / laddodd · fren/hinoedd / cryfion;
11Sehon brenin yr Amoriaid ac Og / brenin / Basan :
a / holl · frenin/iaethau / Canaan :
12Ac a roddodd eu tir hwynt yn / eti/feddiaeth :
yn eti/feddiaeth · i / Israel · ei / bobl.
13Dy enw O Arglwydd a / bery yn · dra/gywydd :
dy goffadwriaeth O Arglwydd o gen/hedlaeth / i gen/hedlaeth.
14Canys yr Arglwydd a / farna · ei / bobl :
a bydd edifar / ganddo · o / ran ei / weision.
15Delwau y cenhedloedd ydynt / arian · ac / aur :
gwaith / dwy/lo / dyn.
16Genau sydd iddynt ond / ni le/farant :
llygaid sydd / ganddynt / ond ni / welant.
17Y mae clustiau iddynt / ond ni / chlywant :
nid oes chwaith / anadl / yn eu / genau.
18Fel hwynt y mae y / rhai a’u / gwnânt :
a phob un a / ymddir/iedo / ynddynt.
19Tŷ Israel ben/dithiwch · yr / Arglwydd :
bendithiwch yr / Arglwydd / tŷ / Aaron.
20Tŷ Lefi ben/dithiwch · yr / Arglwydd :
y rhai a ofnwch yr / Arglwydd · ben/dithiwch · yr / Arglwydd.
† 21Bendithier yr / Arglwydd · o / Seion :
yr hwn sydd yn trigo yn Jerwsalem * / Mo/lwch yr / Arglwydd.
Currently Selected:
Salm 135: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984