Salm 132
132
Caniad y graddau.
1O Arglwydd / cofia / Dafydd :
a’i / holl / flin/der;
2Y modd y tyngodd efe / wrth yr / Arglwydd :
ac yr addunodd i / rymus / Dduw / Jacob;
3Ni ddeuaf i fewn / pabell · fy / nhŷ :
ni / ddringaf · ar / erchwyn · fy / ngwely;
4Ni roddaf / gwsg i’m / llygaid :
na / hun / i’m ham/rantau,
† 5Hyd oni chaffwyf / le i’r / Arglwydd :
preswylfod i / rymus / Dduw / Jacob.
6Wele clywsom am/dani · yn Eff/rata :
cawsom / hi ym / meysydd · y / coed.
7Awn i’w / bebyll / ef :
ymgrymwn o / flaen ei / fainc draed / ef.
8Cyfod Arglwydd / i’th or/ffwysfa :
ti ac / arch / dy ga/dernid.
9Gwisged dy o/ffeiriaid ∙ gyf/iawnder :
a / gorfo/ledded ∙ dy saint.
10Er mwyn / Dafydd ∙ dy / was :
na thro ymaith / wyneb / dy E/neiniog.
11Tyngodd yr Arglwydd mewn gwirionedd i Dafydd * ni thry efe / oddi ∙ wrth / hynny :
o ffrwyth dy gorff y go/sodaf / ar dy · or/seddfainc.
12Os ceidw dy feibion fy nghyfamod a’m tystiolaeth * y rhai a / ddysgwyf / iddynt :
eu meibion hwythau yn dragywydd a eis/teddant / ar dy ∙ or/seddfainc.
13Canys dewisodd yr / Arglwydd / Seion :
ac a’i chwenychodd yn / drigfa / iddo ∙ ei / hun.
14Dyma fy ngor/ffwysfa yn ∙ dra/gywydd :
yma y trigaf / canys · chwe/nychais / hi.
15Gan fendithio y ben/dithiaf ∙ ei / lluniaeth :
di/wallaf · ei / thlodion ∙ â / bara.
16Ei hoffeiriaid hefyd a wisgaf ag / iachaw/dwriaeth :
a’i saint dan / ganu ∙ a / ganant.
17Yna y paraf i gorn / Dafydd · fla/guro :
dar/perais / lamp · i’m He/neiniog.
† 18Ei elynion ef a / wisgaf · â chy/wilydd :
arno / yntau · y blo/deua · ei / goron.
Currently Selected:
Salm 132: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984