Bible App logo
Search Icon

Salm 128

128
Caniad y graddau.
1Gwyn ei fyd pob un sydd yn / ofni · yr / Arglwydd :
yr hwn sydd yn / rhodio · yn ei / ffyrdd / ef.
2Canys mwynhei / lafur · dy / ddwylo :
gwyn dy fyd a / da / fydd i / ti.
3Dy wraig fydd fel gwinwydden ffrwythlon ar hyd ys/tlysau · dy / dŷ :
dy blant fel planhigion o/lewydd · o / amgylch · dy / ford.
4Wele fel hyn yn ddiau / y ben/dithir :
y / gŵr a / ofno · yr / Arglwydd.
5Yr Arglwydd a’th fendithia / allan · o / Seion :
a thi a gei weled daioni Jerwsalem / holl / ddyddiau · dy / einioes.
6A thi a gei weled / plant dy / blant :
a thang/nefedd / ar / Israel.

Currently Selected:

Salm 128: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in