Bible App logo
Search Icon

Salm 119

119
ALEFF
1Gwyn fyd y rhai / perffaith · eu / ffordd :
y rhai a / rodiant ∙ yng / nghyfraith ∙ yr / Arglwydd.
2Gwyn fyd y rhai a gadwant ei dystio/laethau / ef :
ac a’i ceisiant / ef â’u / holl / galon.
3Y rhai hefyd ni / wnânt an/wiredd :
hwy a rodiant / yn ei / ffyrdd / ef.
4Ti / a orch/mynnaist :
gadw / dy orch/mynion ∙ yn / ddyfal.
5O am gy/feirio ∙ fy / ffyrdd :
i / gadw / dy / ddeddfau.
6Yna ni’m / gwara/dwyddid :
pan edrychwn / ar dy/ holl orch/mynion.
7Clodforaf di ag un/iondeb / calon :
pan ddysgwyf farnedi/gaethau / dy gyf/iawnder.
8Cadwaf / dy / ddeddfau :
O na / ad / fi yn / hollol.
BETH
9Pa fodd y glanha / llanc ei / lwybr? :
wrth ymgadw yn / ôl dy / air / di.
10A’m holl / galon ∙ y’th / geisiais :
na ad i mi gyfeil/iorni ∙ oddi / wrth dy ∙ orch/mynion.
11Cuddiais dy ymadroddion / yn fy / nghalon :
fel na / phechwn / i’th / erbyn.
12Ti Arglwydd wyt / fendi/gedig :
dysg i / mi / dy / ddeddfau.
13Â’m gwe/fusau ∙ y / traethais :
holl / farne · di/gaethau ∙ dy / enau.
14Bu mor llawen gennyf ffordd dy / dystio/laethau :
â’r / holl / o/lud.
15Yn dy orchmynion / y my/fyriaf :
ac ar dy / lwybrau /yr ed/rychaf.
16Yn dy ddeddfau yr / ymddig/rifaf :
nid ang/hof/iaf dy / air.
GIMEL
17Bydd / dda · wrth dy / was :
fel y byddwyf / byw · ac y / cadwyf · dy / air.
18Dat/guddia · fy / llygaid :
fel y gwelwyf bethau rhyfedd / allan · o’th / gyfraith / di.
19Dieithr ydwyf / fi · ar y / ddaear :
na chudd di / rhagof / dy orch/mynion.
20Drylliwyd fy / enaid · gan / awydd :
i’th / farne · di/gaethau · bob / amser.
21Ceryddaist y beilchion / mellti/gedig :
y rhai a gyfeiliornant / oddi / wrth dy · orch/mynion.
22Tro oddi wrthyf gy/wilydd · a / dirmyg :
oblegid dy dystio/laethau / di a / gedwais.
23Tywysogion hefyd a eisteddasant * ac a ddywe/dasant · i’m / herbyn :
dy was dithau a fy/fyriai / yn dy / ddeddfau.
24A’th dystio/laethau / oeddynt :
fy hyf/rydwch / a’m cyng/horwyr.
DALETH
25Glynodd fy enaid / wrth y / llwch :
byw/ha fi · yn / ôl dy / air.
26Fy ffyrdd a fynegais a gwran/dewaist / fi :
dysg i / mi / dy / ddeddfau.
27Gwna i mi ddeall / ffordd · dy orch/mynion :
a mi a fy/fyriaf · yn dy / ryfe/ddodau.
28Diferodd fy / enaid · gan / ofid :
nertha / fi yn / ôl dy / air.
29Cymer oddi wrthyf / ffordd y / celwydd :
ac yn raslon / dod i / mi dy / gyfraith.
30Dewisais / ffordd gwir/ionedd :
gosodais dy / farne · di/gaethau · o’m / blaen.
31Glynais wrth dy / dystio/laethau :
O Arglwydd / na’m / gwara/dwydda.
32Ffordd dy orch/mynion · a / redaf :
pan e/hangech / fy / nghalon.
HE
33Dysg i mi O Arglwydd / ffordd dy / ddeddfau :
a / chadwaf ∙ hi / hyd y / diwedd.
34Gwna i mi ddeall a / chadwaf ∙ dy / gyfraith :
ie / cadwaf ∙ hi â’m / holl / galon.
35Gwna i mi gerdded yn / llwybr ∙ dy orch/mynion :
canys / ynddo ∙ y / mae ∙ fy e/wyllys.
36Gostwng fy nghalon at dy / dystio/laethau :
ac / nid / at gy/bydd-dra.
37Tro heibio fy llygaid rhag / edrych ∙ ar / wagedd :
a byw/ha fi / yn dy / ffyrdd.
38Sicrha dy / air i’th / was :
yr hwn sydd yn ym/roddi · i’th / ofn / di.
39Tro heibio fy ngwaradwydd yr / wyf ∙ yn ei / ofni :
canys dy / farne ∙ di/gaethau ∙ sydd / dda.
40Wele, awyddus ydwyf / i’th orch/mynion :
gwna i mi / fyw yn / dy gyf/iawnder.
FAU
41Deued i mi dy dru/garedd / Arglwydd :
a’th iachaw/dwriaeth · yn / ôl dy / air.
42Yna yr a/tebaf · i’m / cablydd :
oherwydd yn dy / air / y go/beithiais.
43Na ddwg dithau air y gwirionedd o’m / genau · yn / llwyr :
oherwydd yn dy farne di/gaethau / di · y go/beithiais.
44A’th gyfraith a / gadwaf · yn was/tadol :
byth / ac yn / dra/gywydd.
45Rhodiaf hefyd / mewn · e/hangder :
oherwydd dy orch/mynion / di a / geisiaf.
46Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf o / flaen bren/hinoedd :
ac / ni bydd · cy/wilydd / gennyf.
47Ac ymddigrifaf / yn dy · orch/mynion :
y / rhai / a / hoffais.
48A’m dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion y / rhai a / gerais :
a mi a fy/fyriaf / yn dy / ddeddfau.
SAIN
49Cofia y gair / wrth dy / was :
yn yr hwn y / peraist · i / mi o/beithio.
50Dyma fy nghysur / yn fy / nghystudd :
canys dy air / di · a’m byw/haodd / i.
51Y beilchion a’m gwatwa/rasant · yn / ddirfawr :
er hynny ni throais oddi / wrth dy / gyfraith / di.
52Cofiais O Arglwydd dy farnedi/gaethau · er/ioed :
ac / ymgy/su/rais.
53Dychryn a ddaeth arnaf oblegid yr / annuw/iolion :
y rhai sydd yn / gadu · dy / gyfraith / di.
54Dy / ddeddfau · oedd fy / nghân :
yn / nhŷ fy / mhere/rindod.
55Cofiais dy enw / Arglwydd · y / nos :
a / chedwais / dy / gyfraith.
56Hyn / oedd / gennyf :
am gadw ohonof / dy orch/mynion / di.
CHETH
57O Arglwydd fy / rhan / ydwyt :
dy/wedais ∙ y / cadwn ∙ dy / eiriau.
58Ymbiliais â’th wyneb â’m / holl / galon :
trugarha / wrthyf ∙ yn / ôl dy / air.
59Meddyliais / am fy / ffyrdd :
a throais fy nhraed at dy / dystio/laethau / di.
60Brysiais / ac nid / oedais :
gadw / dy / orch/mynion.
61Minteioedd yr annuwiolion a’m / hysbeil/iasant :
ond nid / anghofiais ∙ dy / gyfraith / di.
62Hanner nos y cyfodaf / i’th fol/iannu :
am farnedi/gaethau / dy gyf/iawnder.
63Cyfaill ydwyf fi i’r rhai / oll a’th / ofnant :
ac i’r rhai a / gadwant / dy orch/mynion.
64Llawn yw y ddaear o’th dru/garedd ∙ O / Arglwydd :
dysg i / mi / dy / ddeddfau.
TETH
65Gwnaethost yn dda â’th / was O / Arglwydd :
yn / ôl / dy / air.
66Dysg i mi iawn ddeall / a gwy/bodaeth :
oherwydd dy orch/mynion / di a / gredais.
67Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn / cyfeil/iorni :
ond yn awr / cedwais ∙ dy / air / di.
68Da ydwyt /a da/ionus :
dysg i / mi / dy / ddeddfau.
69Y beilchion a glytiasant / gelwydd ∙ i’m / herbyn :
minnau a gadwaf dy orch/mynion ∙ â’m / holl / galon.
70Cyn frased â’r bloneg / yw eu / calon :
minnau a ymddig/rifais ∙ yn dy / gyfraith / di.
71Da yw i mi / fy nghys/tuddio :
fel y / dysgwn / dy / ddeddfau.
72Gwell i mi / gyfraith ∙ dy / enau :
na / miloedd ∙ o / aur ac / arian.
IOD
73Dy ddwylo a’m gwnaethant ac / a’m llun/iasant :
pâr i mi ddeall fel y / dysgwyf / dy orch/mynion.
74Y rhai a’th ofnant a’m gwelant ac a / lawe/nychant :
oblegid gobeithio o/honof · yn dy / air / di.
75Gwn Arglwydd mai cyfiawn yw dy / farne · di/gaethau :
ac mai mewn ffydd/londeb / y’m cys/tuddiaist.
76Bydded, atolwg, dy drugaredd / i’m cy/suro :
yn ôl dy / air i’th / wasa/naethwr.
77Deued i mi dy drugareddau fel y / byddwyf / byw :
oherwydd dy / gyfraith / yw fy · nig/rifwch.
78Cywilyddier y beilchion * canys gwnânt gam â / mi yn · ddi-/achos :
ond myfi a fy/fyriaf · yn dy orch/mynion / di.
79Troer ataf fi y rhai a’th / ofnant / di :
a’r rhai a ad/waenant · dy / dystio/laethau.
80Bydded fy nghalon yn / berffaith · yn dy / ddeddfau :
fel / na’m / cywi/lyddier.
CAFF
81Diffygiodd fy enaid am dy / iachaw/dwriaeth :
wrth dy / air yr / ydwyf · yn / disgwyl.
82Y mae fy llygaid yn / pallu · am dy / air :
gan ddywedyd Pa / bryd / y’m di/ddeni?
83Canys ydwyf fel / costrel · mewn / mwg :
ond / nid ang/hofiais · dy / ddeddfau.
84Pa nifer yw / dyddiau · dy / was? :
pa bryd y gwnei / farn · ar y / rhai a’m · her/lidiant?
85Y beilchion a gloddiasant / byllau · i mi :
yr hyn nid yw / wrth dy / gyfraith / di.
86Dy holl orchmynion / ydynt · wir/ionedd :
ar gam y’m herlid/iasant; / cymorth / fi.
87Braidd na’m difasant / ar y / ddaear :
minnau ni a/dewais / dy orch/mynion.
88Bywha fi yn / ôl · dy dru/garedd :
felly y / cadwaf · dyst/iolaeth · dy / enau.
LAMED
89Yn dra/gywydd · O / Arglwydd :
y mae dy air wedi ei sicr/hau / yn y / nefoedd.
90Dy wirionedd sydd hyd gen/hedlaeth · a chen/hedlaeth :
seiliaist y / ddaear · a / hi a / saif.
91Wrth dy farnedigaethau y / safant / heddiw :
canys dy / weision · yw / pob / peth.
92Oni bai fod dy ddeddf yn hyf/rydwch · i / mi :
darfuasai yna am/danaf / yn fy / nghystudd.
93Byth nid anghofiaf / dy orch/mynion :
canys â / hwynt / y’m byw/heaist.
94Eiddot ti ydwyf / cadw / fi :
oherwydd / dy orch/mynion · a / geisiais.
95Yr rhai annuwiol a ddisgwyliasant amdanaf / i’m di/fetha :
ond dy dystiolaethau / di · a ys/tyriaf / fi.
96Yr ydwyf yn gweled diwedd ar / bob per/ffeithrwydd :
ond dy orchymyn / di sydd / dra / eang.
MEM
97Mor gu gennyf dy / gyfraith / di :
hi yw / fy my/fyrdod / beunydd.
98Â’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn / ddoethach ∙ na’m ge/lynion :
canys / byth y / maent / gyda mi.
99Deellais fwy na’m / holl ath/rawon :
oherwydd dy dystio/laethau · yw / fy my/fyrdod.
100Deellais yn well na’r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di.
101Ateliais fy nhraed oddi wrth bob / llwybr / drwg :
fel y / cadwn · dy / air / di.
102Ni chiliais oddi wrth dy / farne ∙ di/gaethau :
o/herwydd / ti a’m / dysgaist.
103Mor felys yw dy / eiriau · i’m / genau :
me/lysach ∙ na / mêl i’m/ safn.
104Trwy dy orchmynion / di y / pwyllais :
am hynny y ca/seais ∙ bob / gau / lwybr.
NUN
105Llusern yw dy / air i’m / traed :
a / llewyrch / i’m / llwybr.
106Tyngais / a chyf/lawnaf :
y cadwn farnedi/gaethau / dy gyf/iawnder.
107Cystuddiwyd / fi yn / ddirfawr :
bywha fi O / Arglwydd · yn / ôl dy / air.
108Atolwg Arglwydd * bydd fodlon i ewyllysgar off/rymau · fy / ngenau :
a dysg i / mi dy / farne · di/gaethau.
109Y mae fy enaid yn fy / llaw yn · was/tadol :
er hynny nid / wyf yn · ang/hofio · dy / gyfraith.
110Y rhai annuwiol a osodasant / fagl i / mi :
ond ni chyfeil/iornais · oddi / wrth · dy orch/mynion.
111Cymerais dy orchmynion yn eti/feddiaeth · dros / byth :
oherwydd lla/wenydd · fy / nghalon / ydynt.
112Gos/tyngais · fy / nghalon :
i wneuthur dy ddeddfau / byth / hyd y / diwedd.
SAMECH
113Meddyliau ofer / a ga/seais :
a’th / gyfraith / di a / hoffais.
114Fy lloches a’m / tarian / ydwyt :
yn dy / air / y go/beithiaf.
115Ciliwch oddi wrthyf / rai dryg/ionus :
canys / cadwaf · orch/mynion · fy / Nuw.
116Cynnal fi yn ôl dy air fel y / byddwyf / byw :
ac na ad i mi gywi/lyddio / am fy / ngobaith.
117Cynnal fi a di/hangol / fyddaf :
ac ar dy ddeddfau yr ed/rychaf / yn was/tadol.
118Sethraist y rhai oll a gyfeiliornant oddi / wrth dy / ddeddfau :
canys twyllodrus / yw eu / dichell / hwynt.
119Bwriaist heibio holl annuwiolion y / tir fel / sothach :
am hynny yr / hoffais · dy / dystio/laethau.
120Dychrynodd fy nghnawd / rhag dy / ofn :
ac ofnais / rhag dy / farne · di/gaethau.
AIN
121Gwneuthum farn / a chyf/iawnder :
na / ad fi / i’m gorth/rymwyr.
122Mechnïa dros dy / was · er da/ioni :
na ad i’r / beilchion / fy ngorth/rymu.
123Fy llygaid a ballasant am dy / iachaw/dwriaeth :
ac am y/madrodd / dy gyf/iawnder.
124Gwna i’th was yn / ôl dy · dru/garedd :
a / dysg i / mi dy / ddeddfau.
125Dy was ydwyf fi * pâr / i mi / ddeall :
fel y / gwypwyf · dy / dystio/laethau.
126Amser yw i’r / Arglwydd / weithio :
diddy/masant · dy / gyfraith / di.
127Am hynny yr hoffais dy orchmynion yn / fwy nag / aur :
ie yn / fwy nag / aur / coeth.
128Am hynny uniawn y cyfrifais dy orchmynion am / bob / peth :
a cha/seais / bob gau / lwybr.
PE
129Rhyfedd yw dy / dystio/laethau :
am hynny y / ceidw · fy / enaid / hwynt.
130Agoriad dy eiriau a / rydd o/leuni :
pair ddeall / i rai / anni/chellgar.
131Agorais fy ngenau / a dy/heais :
oblegid awyddus / oeddwn · i’th orch/mynion / di.
132Edrych arnaf a thrugar/ha / wrthyf :
yn ôl dy arfer i’r / rhai a / garant · dy / enw.
133Cyfarwydda fy / nghamre · yn dy / air :
ac na lywodraethed / dim an/wiredd / arnaf.
134Gwared fi oddi wrth orth/rymder / dynion :
felly y / cadwaf / dy orch/mynion.
135Llewyrcha dy / wyneb · ar dy / was :
a / dysg i / mi dy / ddeddfau.
136Afonydd o ddyfroedd a / redant · o’m / llygaid :
am na chad/wasant · dy / gyfraith / di.
TSADI
137Cyfiawn ydwyt / ti O / Arglwydd :
ac uniawn / yw dy / farne · di/gaethau.
138Dy dystiolaethau y / rhai a · orch/mynnaist :
ydynt / gyfiawn · a / ffyddlon / iawn.
139Fy / sêl · a’m di/faodd :
oherwydd i’m gelynion ang/hofio · dy / eiriau / di.
140Purwyd dy y/madrodd · yn / ddirfawr :
am hynny y / mae dy / was · yn ei / hoffi.
141Bychan ydwyf fi / a dir/mygus :
ond nid ang/hofiais / dy orch/mynion.
142Dy gyfiawnder sydd gyf/iawnder / byth :
a’th / gyfraith / sydd wir/ionedd.
143Adfyd a chystudd a’m / goddi · we/ddasant :
a’th orch/mynion / oedd fy · nig/rifwch.
144Cyfiawnder dy dystiolaethau a / bery yn · dra/gywydd :
gwna i mi / ddeall · a / byw / fyddaf.
COFF
145Llefais â’m / holl / galon :
clyw fi O Arglwydd * dy / ddeddfau / a / gadwaf.
146Llefais arnat, / achub / fi :
a / chadwaf · dy / dystio/laethau.
147Achubais flaen y / cyfddydd · a / gwaeddais :
wrth dy / air / y dis/gwyliais.
148Fy llygaid a achubasant flaen gwyliadwr/iaethau · y / nos :
i fy/fyrio / yn dy / air di.
149Clyw fy llef yn / ôl · dy dru/garedd :
Arglwydd bywha fi yn / ôl dy / farne · di/gaethau.
150Y rhai a ddilynant ysgelerder a ne/sasant / arnaf :
ymbellhasant oddi / wrth dy / gyfraith / di.
151Tithau / Arglwydd · wyt / agos :
a’th holl orch/mynion / sydd wir/ionedd.
152Er ys talm y gwyddwn am dy / dystio/laethau :
seilio o/honot / hwynt yn · dra/gywydd.
RESH
153Gwêl fy nghystudd a / gwared / fi :
canys / nid ang/hofiais · dy / gyfraith.
154Dadlau fy nadl a / gwared / fi :
byw/ha fi · yn / ôl dy / air.
155Pell yw iachawdwriaeth oddi wrth y / rhai an/nuwiol :
oherwydd ni / cheisiant · dy / ddeddfau / di.
156Dy drugareddau / Arglwydd · sydd / aml :
bywha fi yn / ôl dy / farne · di/gaethau.
157Llawer sydd yn fy erlid ac yn fy / ngwrthwy/nebu :
er hynny ni throais oddi / wrth dy / dystio/laethau.
158Gwelais y troseddwyr / a gre/synais :
am na / chadwent · dy / air / di.
159Gwêl fy mod yn / hoffi · dy orch/mynion :
Arglwydd bywha fi yn / ôl dy / druga/rowgrwydd.
160Gwirionedd o’r dechreuad / yw dy / air :
a phob un o’th gyfiawn farnedi/gaethau · a / bery yn · dra-/gywydd.
SCHIN
161Tywysogion a’m herlid/iasant ∙ heb / achos :
er hynny fy nghalon a grynai / rhag dy / air / di.
162Llawen ydwyf fi o/blegid ∙ dy / air :
fel un yn / cael ys/glyfaeth / lawer.
163Celwydd a gaseais / ac a ∙ ffi/eiddiais :
a’th / gyfraith / di a / hoffais.
164Seithwaith yn y dydd yr ydwyf / yn dy ∙ glod/fori :
oherwydd dy / gyfiawn / farne · di/gaethau.
165Heddwch mawr fydd i’r rhai a / garant ∙ dy / gyfraith :
ac / nid oes / dramgwydd / iddynt.
166Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth / di O / Arglwydd :
a / gwneuthum / dy orch/mynion.
167Fy enaid a gadwodd dy /dystio/laethau :
a / hoff iawn / gennyf / hwynt.
168Cedwais dy orchmynion a’th / dystio/laethau :
canys y mae fy / holl ffyrdd / ger dy / fron di.
TAU
169Nesaed fy ngwaedd o’th / flaen / Arglwydd :
gwna i mi / ddeall ∙ yn / ôl dy / air.
170Deued fy ngweddi / ger dy / fron :
gwared / fi yn / ôl dy / air.
171Fy ngwefusau a / draetha / foliant :
pan / ddysgech ∙ i / mi dy / ddeddfau.
172Fy nhafod a / ddatgan ∙ dy / air :
oherwydd dy holl orch/mynion / sydd gyf/iawnder.
173Bydded dy law i’m / cynor/thwyo :
oherwydd dy orch/mynion di ∙ a dde/wisais.
174Hiraethais O Arglwydd am dy / iachaw/dwriaeth :
a’th / gyfraith / yw fy ∙ hy/frydwch.
175Bydded byw fy enaid fel y’th fol/ianno / di :
a chynorthwyed dy / farne ∙ di/gaethau / fi.
176Cyfeiliornais fel / dafad ∙ wedi / colli :
cais dy was oblegid / nid ang/hofiais ∙ dy orch/mynion.

Currently Selected:

Salm 119: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in