Salm 115
115
1Nid i ni O Arglwydd nid i ni * ond i’th enw dy hun / dod o/goniant :
er mwyn dy drugaredd / ac er / mwyn dy · wir/ionedd.
2Paham y dy/wedai · y cen/hedloedd :
Pa le yn awr y / mae eu / Duw / hwynt?
3Ond ein Duw ni sydd / yn y / nefoedd :
efe a wnaeth yr / hyn a / fynnodd / oll.
4Eu delwau hwy ydynt o / aur ac / arian :
gwaith / dwy/lo / dynion.
5Genau sydd iddynt ond / ni le/farant :
llygaid sydd / ganddynt · ond / ni / welant;
6Y mae clustiau iddynt ond / ni / chlywant :
ffroenau sydd / ganddynt · ond / ni a/roglant :
7Dwylo sydd iddynt ond ni theimlant * traed sydd iddynt ond / ni / cherddant :
ni / leisiant / chwaith â’u / gwddf.
8Y rhai a’u gwnânt / ydynt · fel / hwythau :
a phob un a / ymddir/iedo / ynddynt.
9O Israel ymddiried / di · yn yr / Arglwydd :
e/fe · yw eu / porth a’u / tarian.
10Tŷ Aaron ymddiriedwch / yn yr / Arglwydd :
e/fe · yw eu / porth a’u / tarian.
11Y rhai a ofnwch yr Arglwydd * ymddiriedwch / yn yr / Arglwydd :
e/fe · yw eu / porth a’u / tarian.
12Yr Arglwydd a’n cofiodd ni * e/fe · a’n ben/dithia :
bendithia efe dŷ Israel * ben/dithia · e/fe dŷ / Aaron.
† 13Bendithia efe y rhai a / ofnant · yr / Arglwydd : fychain / a / mawr/ion.
14Yr Arglwydd a’ch chwa/nega · chwi / fwyfwy :
chwy/chwi a’ch / plant / hefyd.
15Bendigedig ydych chwi / gan yr / Arglwydd :
yr hwn a / wnaeth / nef a / daear.
16Y nefoedd ie y nefoedd ydynt / eiddo · yr / Arglwydd :
a’r ddaear a roddes e/fe i / feibion / dynion.
17Y meirw ni fol/iannant · yr / Arglwydd :
na’r neb sydd yn / disgyn / i ddis/tawrwydd.
† 18Ond nyni a fen/dithiwn · yr / Arglwydd :
o hyn allan ac yn dragywydd * / Mo/lwch yr / Arglwydd.
Currently Selected:
Salm 115: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984