Bible App logo
Search Icon

Salm 113

113
1Molwch yr Arglwydd * Gweision yr / Arglwydd / molwch :
ie / molwch / enw yr / Arglwydd.
2Bendigedig fyddo / enw yr / Arglwydd :
o hyn / allan / ac yn ∙ dra/gywydd.
3O godiad haul / hyd ei ∙ fach/ludiad :
mol/iannus ∙ yw / enw yr / Arglwydd.
4Uchel yw yr Arglwydd goruwch yr / holl gen/hedloedd :
a’i ogoniant / sydd go/ruwch y / nefoedd.
5Pwy sydd fel yr Arglwydd ein / Duw / ni :
yr hwn / sydd yn ∙ pres/wylio ∙ yn / uchel,
6Yr hwn a / ymdda/rostwng :
i edrych y pethau yn y / nefoedd ∙ ac / yn y / ddaear?
7Efe sydd yn codi’r / tlawd o’r / llwch :
ac yn dyr/chafu’r ∙ ang/henus ∙ o’r / domen,
8I’w osod gyda / phende/figion :
ie gyda / phende/figion ∙ ei / bobl.
9Yr hwn a wna i’r amhlantadwy / gadw tŷ :
a bod yn llawen fam plant * Can/mo/lwch yr / Arglwydd.

Currently Selected:

Salm 113: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in