Salm 11
11
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Yn yr Arglwydd yr / wyf · yn ym/ddiried :
pa fodd y dywedwch wrth fy enaid * Eheda i’ch / mynydd / fel a/deryn?
2Canys wele, y drygionus a anelant fwa * paratoesant eu saethau / ar y / llinyn :
i saethu yn ddirgel / y rhai / uniawn · o / galon.
† 3Canys y seiliau / a ddi/nistriwyd :
pa / beth a / wna y / cyfiawn?
4Yr Arglwydd sydd yn nheml ei sancteiddrwydd * gorseddfa yr Arglwydd sydd / yn y / nefoedd :
y mae ei lygaid ef yn gweled * ei amrantau yn / profi / meibion / dynion.
5Yr Arglwydd a / brawf y / cyfiawn :
eithr cas gan ei enaid ef y drygionus * a’r hwn sydd / hoff / ganddo / drawster.
6Ar yr annuwiolion y glawia efe faglau tân * a brwmstan a / phoethwynt · ys/tormus :
dyma / ran eu / ffiol / hwynt.
7Canys yr Arglwydd cyfiawn a / gâr gyf/iawnder :
ei wyneb a / edrych / ar yr / uniawn.
Currently Selected:
Salm 11: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984