Bible App logo
Search Icon

Salm 109

109
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Na /-/ thaw :
O / Dduw / fy / moliant.
2Canys genau yr annuwiol a genau y twyllodrus * a ymago-/rasant / arnaf :
â thafod celwyddog y / llefa/rasant · i’m / herbyn.
3Cylchynasant fi hefyd â / geiriau / cas :
ac ymla/ddasant · â / mi heb / achos.
4Am fy ngharedigrwydd y’m / gwrthwy/nebant :
minnau / a ar/feraf / weddi.
5Talasant hefyd i mi / ddrwg am / dda :
a / chas / am fy / nghariad.
[6Gosod dithau un an/nuwiol / arno ef :
a safed / Satan / wrth ei · dde/heulaw ef.
7Pan farner ef / eled · yn / euog :
a / bydded · ei / weddi · yn / bechod.
8Ychydig / fyddo · ei / ddyddiau :
a chymered / arall · ei / swydd / ef.
9Bydded ei / blant · yn am/ddifaid :
a’i / wraig / yn / weddw.
10Gan grwydro hefyd * crwydred ei blant ef / a char/dotant :
ceisiant hefyd eu bara o’u / hanghy/fannedd /leoedd.
11Rhwyded y ceisiad yr hyn / oll sydd / ganddo :
ac anrheithied di/eithriaid · ei / lafur / ef.
12Na fydded neb a estynno dru/garedd / iddo :
ac na fydded neb a drugar/hao · wrth ei am/ddifaid / ef.
13Torrer ymaith ei hil/iogaeth / ef :
dileer eu / henw · yn yr / oes / nesaf.
14Cofier anwiredd ei dadau o / flaen yr / Arglwydd :
ac na ddi/leer / pechod · ei / fam ef.
15Byddant bob amser ger/bron yr / Arglwydd :
fel y torro efe ymaith eu / coffa/dwriaeth · o’r / tir;
16Am na chofiodd / wneuthur · tru/garedd :
eithr erlid ohono y truan a’r tlawd * a’r cystudd/iedig · o /
galon · i’w / ladd.
17Hoffodd felltith a / hi a · ddaeth / iddo :
ni fynnai fendith a / hi a · bell/haodd · oddi / wrtho.
18Ie gwisgodd felltith / fel di/lledyn :
a hi a ddaeth fel dwfr i’w fewn * ac fel / olew / i’w / esgyrn.
19Bydded iddo fel dilledyn yr hwn a / wisgo · e/fe :
ac fel gwregys a’i gwre/gyso · e/fe yn · was/tadol.]
[† 20Hyn fyddo tâl fy ngwrthwynebwyr / gan yr / Arglwydd :
a’r rhai a ddywedant / ddrwg yn / erbyn · fy / enaid.]
21Tithau Arglwydd Dduw gwna erof fi er/ mwyn dy / enw :
am fod yn dda dy dru/garedd / gwared / fi.
22Canys truan a / thlawd · ydwyf / fi :
a’m / calon · a ar/chollwyd · o’m / mewn.
23Euthum fel / cysgod · pan / gilio :
fel / locust / y’m hys/gydwir.
24Fy ngliniau a aethant yn / egwan · gan / ympryd :
a’m cnawd a / guriodd · o / eisiau / braster.
25Gwaradwydd hefyd / oeddwn / iddynt :
pan / welent · fi / siglent · eu / pennau.
26Cynorthwya fi O / Arglwydd · fy / Nuw :
achub / fi yn / ôl dy · dru/garedd;
27Fel y gwypont mai dy law / di yw / hyn :
mai / ti / Arglwydd · a’i / gwnaethost.
28Melltithiant hwy ond ben/dithia / di :
cywilyddier hwynt pan gyfodant * a / llawe/nyched · dy / was.
29Gwisger fy ngwrthwy/nebwyr · â / gwarth :
ac ymwisgant â’u cy/wilydd / megis · â / chochl.
30Clodforaf yr Arglwydd yn / ddirfawr · â’m / genau :
ie moliannaf / ef y/mysg / llawer.
31Oherwydd efe a saif ar dde/heulaw · y / tlawd :
i’w achub oddi wrth y / rhai a / farnant · ei / enaid.

Currently Selected:

Salm 109: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in