YouVersion Logo
Search Icon

Hebreaid 1

1
Duw wedi Llefaru yn ei Fab
1Mewn llawer dull a llawer modd y llefarodd Duw gynt wrth yr hynafiaid trwy'r proffwydi, ond yn y dyddiau olaf hyn llefarodd wrthym ni mewn Mab. 2Hwn yw'r un a benododd Duw yn etifedd pob peth, a'r un y gwnaeth y bydysawd drwyddo. 3Ef yw disgleirdeb gogoniant Duw, ac y mae stamp ei sylwedd ef arno; ac y mae'n cynnal pob peth â'i air nerthol. Ar ôl iddo gyflawni puredigaeth pechodau, eisteddodd ar ddeheulaw'r Mawrhydi yn yr uchelder, 4wedi dyfod gymaint yn uwch na'r angylion ag y mae'r enw a etifeddodd yn rhagorach na'r eiddynt hwy.
Y Mab yn Uwch na'r Angylion
5Oherwydd wrth bwy o'r angylion y dywedodd Duw erioed:
“Fy Mab wyt ti,
myfi a'th genhedlodd di heddiw”?
Ac eto:
“Byddaf fi yn dad iddo ef,
a bydd yntau yn fab i mi.”
6A thrachefn, pan yw'n dod â'i gyntafanedig i mewn i'r byd, y mae'n dweud:
“A bydded i holl angylion Duw ei addoli.”
7Am yr angylion y mae'n dweud:
“Yr hwn sy'n gwneud ei angylion yn wyntoedd,
a'i weinidogion yn fflam dân”;
8ond am y Mab:
“Y mae dy orsedd di, O Dduw, yn dragwyddol,
a gwialen dy deyrnas di yw gwialen uniondeb.
9Ceraist gyfiawnder a chasáu anghyfraith.
Am hynny, O Dduw, y mae dy Dduw di wedi dy eneinio
ag olew gorfoledd, uwchlaw dy gymheiriaid.”
10Y mae hefyd yn dweud:
“Ti, yn y dechrau, Arglwydd, a osodaist sylfeini'r ddaear,
a gwaith dy ddwylo di yw'r nefoedd.
11Fe ddarfyddant hwy, ond yr wyt ti'n aros;
ânt hwy i gyd yn hen fel dilledyn;
12plygi hwy fel plygu mantell,
a newidir hwy fel newid dilledyn;
ond tydi, yr un ydwyt,
ac ar dy flynyddoedd ni bydd diwedd.”
13Wrth bwy o'r angylion y dywedodd ef erioed:
“Eistedd ar fy neheulaw
nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed”?
14Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt oll, yn cael eu hanfon i weini, er mwyn y rhai sydd i etifeddu iachawdwriaeth?

Currently Selected:

Hebreaid 1: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy