YouVersion Logo
Search Icon

Caniad Solomon 2

2
1Yr wyf fel rhosyn Saron,
fel lili'r dyffrynnoedd.
2Ie, lili ymhlith drain
yw f'anwylyd ymysg merched.
3Fel pren afalau ymhlith prennau'r goedwig
yw fy nghariad ymysg y bechgyn.
Yr oeddwn wrth fy modd yn eistedd yn ei gysgod,
ac yr oedd ei ffrwyth yn felys i'm genau.
4Cymerodd fi i'r gwindy,
gyda baner ei gariad drosof.
5Rhoddodd imi rawnwin i'w bwyta,
a'm hadfywio ag afalau,
oherwydd yr oeddwn yn glaf o gariad.
6Yr oedd ei fraich chwith dan fy mhen,
a'i fraich dde yn fy nghofleidio.
7Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch
yn enw iyrchod ac ewigod y maes.
Peidiwch â deffro na tharfu fy nghariad
nes y bydd yn barod.
Yr Ail Ganiad
8Ust! dyma fy nghariad,
dyma ef yn dod;
y mae'n neidio ar y mynyddoedd,
ac yn llamu ar y bryniau.
9Y mae fy nghariad fel gafrewig,
neu hydd ifanc;
dyna ef yn sefyll y tu allan i'r mur,
yn edrych trwy'r ffenestri,
ac yn syllu rhwng y dellt.
10Y mae fy nghariad yn galw arnaf ac yn dweud wrthyf,
“Cod yn awr, f'anwylyd,
a thyrd, fy mhrydferth;
11oherwydd edrych, aeth y gaeaf heibio,
ciliodd y glaw a darfu;
12y mae'r blodau'n ymddangos yn y meysydd,
daeth yn amser i'r adar ganu,
ac fe glywir cân y durtur yn ein gwlad;
13y mae'r ffigysbren yn llawn ffigys ir,
a blodau'r gwinwydd yn gwasgaru aroglau peraidd.
Cod yn awr, f'anwylyd,
a thyrd, fy mhrydferth.”
14Fy ngholomen, sydd yn encilion y graig,
yng nghysgod y clogwyni,
gad imi weld dy wyneb,
a chlywed dy lais,
oherwydd y mae dy lais yn swynol,
a'th wyneb yn brydferth.
15Daliwch inni'r llwynogod,
y llwynogod bychain,
sy'n difetha'r gwinllannoedd
pan yw'r blodau ar y gwinwydd.
16Y mae fy nghariad yn eiddo i mi,
a minnau'n eiddo iddo ef;
y mae'n bugeilio'i braidd ymysg y lilïau.
17Cyn i awel y dydd godi,
ac i'r cysgodion ddiflannu,
tro ataf, fy nghariad,
a bydd yn debyg i afrewig
neu hydd ifanc ar y mynyddoedd ysgythrog.

Currently Selected:

Caniad Solomon 2: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy